Syniadau meddygol yn y cyfnod canoloesol
Roedd yr hen Roegwyr a Rhufeiniaid, yn arbennig HippocratesMeddyg Groegaidd, oddeutu 400 CC. Yr enw arno yw 鈥榯ad meddygaeth fodern鈥 gan ei fod wedi datblygu theori'r pedwar hiwmor, a鈥檙 syniad o arsylwi a chofnodi salwch ac afiechydon. a GalenOddeutu 129-203 OC. Adfywiwyd syniadau Hippocrates gan annog tynnu gwaed fel triniaeth, ar 么l dysgu am anatomi wrth drin gladiatoriaid wedi鈥檜 hanafu., yn ddylanwad mawr ar syniadau meddygol yn yr Oesoedd Canol. Er nad oedd Galen yn Gristion, fe鈥檌 derbyniwyd gan yr Eglwys oherwydd ei fod yn credu bod gan bobl enaid, ac yn aml yn ei lyfrau mae鈥檔 cyfeirio at y Creawdwr. Felly, roedd cwestiynu Galen, yn gyfystyr 芒 herio athrawiaethau鈥檙 Eglwys.
Y pedwar gwlybwr oedd:
- fflem
- gwaed
- bustl melyn
- bustl du
Pan fyddai鈥檙 gwlybwyr yn aros yn gytbwys, byddai person yn aros yn iach, ond pan fyddai gormodedd o un gwlybwr byddai salwch yn digwydd.
- Pan fyddai trwyn claf yn rhedeg, byddai hynny鈥檔 digwydd oherwydd bod gormod o fflem yn y corff.
- Pan fyddai trwyn claf yn gwaedu, byddai hynny鈥檔 digwydd oherwydd bod gormod o waed yn y corff.
Roedd yn bwysig cadw cydbwysedd yng nghorff y claf. Roeddent yn gwneud hynny drwy gael gwared 芒 gormod o hylif:
- cafwyd gwared 芒 gormod o waed drwy waedu i fowlen neu ddefnyddio gelod
- gellid cael gwared 芒 bilen drwy ddefnyddio carthyddMeddyginiaeth sy鈥檔 helpu鈥檙 claf wagio鈥檙 coluddyn er mwyn glanhau鈥檙 corff.
Roedd meddygon canoloesol hefyd yn defnyddio astroleg, oherwydd eu bod yn credu bod symudiad y s锚r yn effeithio ar iechyd pobl. Daw鈥檙 gair modern 鈥渋nfluenza鈥 o air Eidalaidd canoloesol sy鈥檔 golygu 鈥渄ylanwad鈥 y planedau.
Roedd pob rhan o鈥檙 corff yn gysylltiedig ag arwydd astroleg, a byddai triniaethau megis gwaedu ond yn digwydd pan fyddai鈥檙 lleuad yn y man cywir. Felly, roedd meddygon angen gwybodaeth am astroleg yn ogystal 芒 meddygaeth.
Yn 么l siart canoloesol y Dyn Sidydd (Zodiac Man), roedd pob rhan o鈥檙 corff yn gysylltiedig ag arwydd astroleg. Roedd meddygon yn edrych mewn llyfr o鈥檙 enw Valemecum oedd yn cynnwys siartiau i benderfynu pryd i waedu cleifion neu gyflawni triniaethau eraill.
Credid bod hyd yn oed planhigion meddyginiaethol o dan ddylanwad y s锚r a鈥檙 planedau. Mor ddiweddar 芒鈥檙 17eg ganrif, ysgrifennodd Nicholas Culpeper, perlysieuydd enwog o Lundain, y cyngor hwn am ddant y llew yn ei lysieulyfr.
DANDELION - (Leontodon Taraxacum)
VULGARLY called Piss-a-Beds
It is under the dominion of Jupiter... It is of an opening and cleansing quality and therefore very effectual for obstructions of the liver鈥t openeth the passages of the urine in both young and old.
Felly, mewn rhai ffyrdd, roedd gwybodaeth feddygol yn mynd gam yn 么l yn Ewrop yr Oesoedd Canol. Collwyd llawer o wybodaeth y Groegwyr a鈥檙 Rhufeiniaid, a daeth ofergoeliaeth yn ei lle.
Roedd meddygon nid yn unig yn defnyddio astroleg cyn trin cleifion, ond roedd Brenhinoedd yn credu y byddent yn gallu gwella pobl oedd yn dioddef 芒 mandwynClefyd erchyll sy鈥檔 achosi i chwarennau鈥檙 gwddf chwyddo. Mae鈥檔 fath o TB., 鈥楬aint y Brenin鈥, dim ond drwy gyffwrdd ynddyn nhw.
Roedd y werin bobl yn troi at offeiriaid neu鈥檔 mynd i weld dynion hysbys i gael cymorth.
Roedd yr Eglwys yn gwahardd dyrannu cyrff ac yn pregethu yn erbyn arbrofion. Ond, roedd yr Eglwys yn annog pobl i fynd ar Grwsadau i鈥檙 Tir Sanctaidd, ble鈥檙 oeddent yn dod i gysylltiad 芒鈥檙 byd Mwslimaidd. Roedd meddygon Mwslimaidd yn fwy gwybodus na鈥檜 cyfoedion Ewropeaidd, a bu i hynny arwain at welliannau mewn gwybodaeth feddygol.