Vesalius, Par茅 a Harvey
Roedd cyfraniadau Vesalius, Par茅 a Harvey yn fawr iawn i wybodaeth feddygol. Roeddent yn gallu gwneud eu gwaith heb ymyrraeth.
- Roedd yr Eglwys yn llai dylanwadol. Roedd gwyddonwyr yn gallu defnyddio dulliau mwy gwyddonol oedd yn cynnwys arbrofi, arsylwi a chofnodi canlyniadau.
- Roeddent yn manteisio ar y wasg argraffu er mwyn lledaenu syniadau. Cyhoeddwyd llyfr Harvey yn ystod y ffair lyfrau flynyddol yn Frankfurt yn Yr Almaen, gan wybod y byddai pobl o bob rhan o Ewrop yn bresennol.
- Roeddent yn cael cefnogaeth pobl ddylanwadol 鈥 roedd Par茅 yn feddyg i bedwar o frenhinoedd Ffrainc a Harvey i ddau frenin yn Lloegr, tra bod gan Vesalius gefnogaeth yr awdurdodau ym Mhadua.
Ond, er yr holl ddatblygiadau, roedd rhwystrau yn parhau.
- Roedd llawer o feddygon yn gwrthod derbyn y wybodaeth newydd ac yn glynu at Galen a thriniaethau traddodiadol.
- Roedd Par茅 yn cael ei ddirmygu gan mai dim ond barbwr-llawfeddyg ydoedd, nid meddyg wedi ei hyfforddi mewn prifysgol, ac oherwydd ei fod yn ysgrifennu ei lyfrau mewn Ffrangeg yn hytrach na Lladin.
- Roedd rhai cleifion hefyd yn gwrthod syniadau newydd. Dywedodd Harvey wrth ffrind ei fod wedi colli nifer o gleifion ar 么l 1628 oherwydd ei
syniadau gwallgof
.
Er bod gwybodaeth feddygol wedi datblygu, roedd yr effaith ar fywyd bob dydd yn gyfyngedig. Roedd gwybodaeth am anatomi wedi gwella, ond roedd llawdriniaeth yn dal yn beryglus ac roedd cleifion yn marw os nad oedd rhwymynnau yn l芒n.
Roedd gan feddygon wybodaeth llawer gwell am y galon a鈥檙 system cylchrediad, ond bu鈥檔 rhaid aros tan y 1890au nes i lawfeddygon berfformio llawdriniaeth er mwyn atgyweirio calon oedd wedi ei niweidio.