91热爆

William Harvey

William Harvey wnaeth ddarganfod egwyddor cylchrediad y gwaed drwy鈥檙 corff.

Cyn Harvey, roedd meddygon yn derbyn syniad Galen bod gwaed newydd yn cael ei gynhyrchu gan yr iau yn lle鈥檙 gwaed oedd yn cael ei losgi gan y cyhyrau.

Daeth Harvey yn feddyg i James I (ac yn ddiweddarach i Siarl I). Roedd gan y ddau frenin ddiddordeb mewn gwyddoniaeth ac roeddent yn annog ymchwil Harvey.

Roedd hefyd yn ddarlithydd ar anatomi. Roedd yn dyrannu anifeiliaid ac yn cynnal arbrofion er mwyn cael gwybodaeth fanwl am sut oedd y system gardiofasgwlaidd (y galon a鈥檙 pibellau gwaed) yn gweithio. Bu i hynny wneud iddo wrthod syniadau Galen.

Pedwar braich yn dangos sut oedd gwaed yn llifo i elinau cleifion
Figure caption,
Un o arbrofion enwocaf, ond symlaf, Harvey. Roedd yn dangos sut oedd gwaed yn llifo i elinau cleifion

Yn 1628 cyhoeddodd An Anatomical Account of the Motion of the Heart and Blood in Animals. Yn y llyfr hwn, profodd bod y galon yn gweithio fel pwmp, a鈥檌 bod yn gyfrifol am gylchrediad y gwaed o gwmpas y corff.