91热爆

Darganfod DNA

James Watson a Francis Crick

Darganfuwyd DNA am y tro cyntaf yn y 19eg ganrif, ond roedd ei swyddogaeth yn ddirgelwch. Ar ddechrau鈥檙 1950au astudiodd y myfyrwyr Rosalind Franklin a Maurice Wilkins DNA drwy ddefnyddio pelydrau X.

Cynhyrchodd Franklin ffotograff pelydr X oedd yn galluogi i ddau ymchwilydd arall, James Watson a Francis Crick, weithio allan beth oedd strwythur 3D DNA. Canfuwyd bod strwythur DNA yn .

Roedd model Crick a Watson yn helpu i egluro sut mae DNA yn dyblygu a sut mae鈥檔 cario gwybodaeth enetig mewn pobl. Dyma oedd sail datblygiadau sylweddol ym maes bioleg foleciwlaidd sy鈥檔 parhau hyd heddiw. Moleciwlau sy鈥檔 cario鈥檙 cyfarwyddiadau genetig a ddefnyddir gan bob organeb byw hysbys i dyfu, datblygu, gweithredu ac atgenhedlu.

Prosiect y Genom Dynol

Gelwir y wybodaeth enetig mewn organeb yn enom. Dechreuwyd Prosiect y Genom Dynol (Human Genome Project - HGP) ar ddiwedd yr 20fed ganrif. Roedd gwyddonwyr o 18 o wledydd yn rhan o鈥檙 prosiect ac roedd yn dangos pwysigrwydd cydweithredu wrth ddatblygu gwybodaeth feddygol. Roedd yn uchelgeisiol iawn, ac roedd iddo nifer o amcanion, yn cynnwys:

  • gweithio allan dilyniant y tri biliwn o barau yn y genom dynol
  • canfod yr holl enynnau
  • datblygu dulliau cyflymach o ddilyniannu DNA

Cwblhawyd y prosiect dilyniannu yn 2003, ac mae gwaith yn mynd yn ei flaen er mwyn canfod yr holl enynnau yn y genom dynol.

Addasu DNA

Drwy addasu DNA mae鈥檔 bosibl y gellir dileu clefydau genetig. Gellir defnyddio DNA i sgrinio pobl am glefydau genetig, ee canser y fron, ac fe鈥檌 defnyddiwyd hefyd i ddadwneud mwtadiadau sy鈥檔 achosi dallineb, rhwystro celloedd canser rhag lluosogi ac achosi i rai celloedd allu gwrthsefyll .