91热爆

Maes gwybodaeth feddygol yn y 19eg ganrif

Ar ddechrau鈥檙 19eg ganrif, er y bu ychydig o ddatblygiadau ym maes gwybodaeth feddygol, nid oedd gwyddonwyr o hyd yn deall beth oedd yn achosi clefydau.

Damcaniaeth germau

Y datblygiad mawr nesaf oedd yn y 1860au pan ddaru Louis Pasteur, gan ddefnyddio microsgop Lister, ddarganfod germau a chwyldroi gwybodaeth feddygol.

Louis Pasteur

Yn y 1950au roedd y gwyddonydd o Ffrainc, Louis Pasteur, yn cael ei gyflogi gan gwmni bragu er mwyn canfod pam fod eu cwrw yn suro. Drwy鈥檙 microsgop gwnaeth ddarganfod oedd yn tyfu yn yr hylif. Roedd yn credu bod y germau yma, a gafodd yr enw hwnnw oherwydd ei bod yn ymddangos eu bod yn tyfu (germinating), yn achosi鈥檙 broblem. Gwnaeth ddarganfod y gellid lladd y bacteria microsgopig oedd yn suro鈥檙 cwrw drwy ei gynhesu drwy .

Yn 1861, cyhoeddodd Pasteur ei theori germau ac, erbyn 1865, roedd wedi profi bod cyswllt rhwng germau ac afiechyd. Yn 1879, darganfu frechiad ar gyfer colera鈥檙 ieir. Canfu bod y germ, wrth i aer allu cyrraedd ato, yn gwanio, a bod rhoi brechiad o鈥檙 germ gwannach yma i ieir yn eu hatal rhag dal yr afiechyd. Yn 1881, datblygodd frechiad ar gyfer anthracs ac, erbyn 1885, brechiad ar gyfer y gynddaredd.

Robert Koch

Ar ddiwedd y 1870au dechreuodd yr Almaenwr, Robert Koch gymhwyso syniadau Pasteur i glefydau dynol. Drwy wneud hynny fe greodd wyddoniaeth bacterioleg. Canfu鈥檙 bacteria oedd yn achosi anthracs (1875), TB (1882) a colera (1883). Roedd Koch yn drylwyr iawn. Er mwyn ynysu鈥檙 bacteria anthracs, fe drosglwyddodd y bacteria drwy 20 cenhedlaeth o lygod nes ei fod yn fodlon bod ganddo鈥檙 ficro-organeb gywir. Hefyd, datblygodd Koch gyfrwng ar gyfer tyfu bacteria a ffordd o鈥檜 staenio fel y gellid eu gweld yn rhwyddach.

Bu i lwyddiant Koch ysgogi Pasteur fwrw iddi eto. Yn y cyfnod hwn roedd yna elyniaeth fawr rhwng Ffrainc a鈥檙 Almaen, yn dilyn rhyfel yn 1870. Roedd llywodraeth yr Almaen wedi rhoi t卯m o wyddonwyr i gynorthwyo Koch, a nawr penderfynodd llywodraeth Ffrainc gefnogi Pasteur a wnaeth ddatblygu brechiadau hefyd.

Yn y 1880au a鈥檙 1890au bu datblygiadau mawr o ran canfod y bacteria oedd yn achosi clefydau a datblygu brechiadau.

  • Roedd llywodraethau yn rhoi arian er mwyn cefnogi ymchwil gwyddonol. Yng Nghymru, roedd Dr J W Power, Swyddog Meddygol dros Iechyd Glyn Ebwy, yn allweddol o ran sefydlu cyrsiau bacterioleg yng Ngholeg y Brenin, Llundain
  • Roedd gwyddonwyr fel Pasteur a Koch yn arwain timau o wyddonwyr medrus. Bu i Emil von Behring, un o d卯m Koch, ddarganfod a gyda Emile Roux, un o gydweithwyr Pasteur, fe鈥檌 defnyddiodd i ddatblygu brechiad yn erbyn difftheria. Cynhyrchodd Paul Ehrlich, un o fyfyrwyr Koch, gyffur Salvarsan 606 er mwyn trin syffilis. Dyma oedd y cyntaf o鈥檙 math o gyffuriau a alwyd yn fwledi arian, a ddyluniwyd i dargedu germau penodol.

Datblygiadau mewn llawdriniaeth orthopaedig

Thomas Rocyn Jones

Yn y 19eg ganrif bu datblygiadau ym maes . Roedd yna nifer o osodwyr esgyrn arloesol o Gymru a helpodd i newid y ffordd o drin anafiadau orthopaedig.

Yng nghanol y 19eg ganrif sefydlodd Thomas Rocyn Jones bractis yn nyffrynnoedd Gwent ac ennill enw da am drin toriadau, datgymaliadau ac anafiadau cyhyrol. Datblygodd fathau newydd o sblintiau er mwyn trin anafiadau tendonau. Hefyd, roedd yn gosod cymhorthion y tu mewn i esgidiau er mwyn gwella straen traed. Ond ni ddefnyddiwyd ei syniadau鈥檔 eang i drin anafiadau orthopaedig am 50 mlynedd arall.

Teulu Thomas Ynys M么n

Bu i sawl cenhedlaeth o deulu Thomas Ynys M么n wneud cyfraniadau pwysig hefyd. Symudodd Evan Thomas i Lerpwl, gan arbenigo mewn clefydau鈥檙 esgyrn a鈥檙 cymalau. Daeth ei bum mab i fod yn feddygon.

Ystyrir mai ei fab hynaf, Hugh Owen Thomas, oedd yn llawfeddyg, yw tad llawfeddygaeth orthopaedig fodern. Dyluniodd sblintiau hefyd.

Dyfeisiwyd sblint Thomas yn 1875 er mwyn helpu i wella toriadau yn y ffemwr (asgwrn y forddwyd). Roedd yn helpu i leddfu poen ac yn lleihau nifer y trychiadau oedd eu hangen. Defnyddiwyd sblint Thomas yn eang ar anafiadau coes yn ystod y ddau ryfel byd. Mae鈥檔 cael ei ddefnyddio hyd heddiw.

Roedd Syr Robert Jones yn nai i Hugh Owen Thomas. Astudiodd gyda鈥檌 ewythr ac yna ef oedd darlithydd orthopaedig cyntaf Prifysgol Lerpwl. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fe鈥檌 penodwyd yn bennaeth orthopaedig y fyddin. Drwy ddefnyddio sblint Thomas llwydodd i ostwng y gyfradd marwolaethau o ganlyniad i dorri esgyrn o 80 y cant i 20 y cant.

Rhyngddyn nhw, y gosodwyr esgyrn yma o Gymru gosododd sylfaen llawfeddygaeth orthopaedig fodern.