Yr Oes Aur
Yn 1923, roedd Gweriniaeth Weimar ar fin cwympo, ond, yn annisgwyl, bu鈥檙 argyfwng yn ddechrau cyfnod o sefydlogrwydd a ffyniant. Roedd y cyfnod 1923-1929 yn adeg pan oedd yr economi鈥檔 ffynnu a bywyd diwylliannol yn blodeuo yn yr Almaen. Fe鈥檌 gelwir yn Oes Aur Weimar.
Digwyddodd y gweddnewidiad hwn oherwydd i鈥檙 Almaen gael ei hachub gan ddau unigolyn, Gustav Stresemann a Charles Dawes.
Datblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol 1923-1929
Gustav Stresemann
Sylweddolodd Gustav Stresemann, gwleidydd cenedlaetholgar, fod angen gwneud rhywbeth i achub yr Almaen. Fe oedd y gwleidydd pwysicaf rhwng 1923 a 1929, serch hynny, dim ond am ychydig fisoedd y goroesodd fel Canghellor llywodraeth glymblaid. Roedd yn aelod blaenllaw o bob llywodraeth rhwng 1923 a 1929, a'i brif r么l oedd Gweinidog Tramor.
Ei weithred gyntaf yn 1923 oedd trefnu鈥檙 Glymblaid Fawr o bleidiau cymedrol, o blaid democratiaeth, yn y Reichstag. O鈥檙 diwedd, roedd gan yr Almaen lywodraeth a allai lunio deddfau. Dan arweiniad Stresemann, rhoddodd y llywodraeth derfyn ar y streic, gan berswadio鈥檙 Ffrancod i adael y Ruhr a newidiodd yr arian cyfred i'r Rentenmark a helpodd i roi diwedd ar gorchwyddiant.
Cyflwynodd Stresemann ddiwygiadau hefyd i helpu pobl gyffredin, fel canolfannau gwaith, t芒l diweithdra a thai gwell.
Datblygiadau economaidd 1923-1929
Charles Dawes
Charles Dawes oedd cyfarwyddwr cyllideb yr Unol Daleithiau. Yn 1923, cafodd ei anfon i Ewrop i roi trefn ar economi鈥檙 Almaen. Dan ei gyngor, diwygiwyd Reichsbank yr Almaen a chafodd yr hen arian eu casglu i mewn a鈥檜 llosgi. Dyna roi terfyn ar y gorchwyddiant. Trefnodd Dawes Gynllun Dawes hefyd gyda Stresemann, a roddai fwy o amser i鈥檙 Almaen i dalu iawndal. Yn bwysicaf oll, cytunodd Dawes y byddai America鈥檔 rhoi benthyg 800 miliwn marc aur i鈥檙 Almaen, a roddodd hwb i economi鈥檙 Almaen.
Wedi gostwng yr iawndaliadau rhyfel yn sgil Cynllun Dawes yn 1924, cafwyd newidiadau pellach i鈥檙 iawndaliadau gyda Chynllun Young yn 1929.
Owen Young
Arweinydd y pwyllgor a edrychodd ar gwestiwn yr iawndal oedd Owen Young, diwydiannwr o America. Pwyllgor a benodwyd gan y Pwyllgor Iawndaliadau Cynghreiriol oedd hwn. Ymgais i gefnogi鈥檙 Almaen trwy ei phoen ariannol oedd y cynllun terfynol.
- Lleihawyd y taliadau o dri chwarter.
- Estynnwyd yr amser a roddwyd i鈥檙 Almaen i dalu i 59 o flynyddoedd.
- Lleihawyd yr iawndaliadau i 37,000 miliwn marc. Roedd y swm gwirioneddol yr oedd gofyn ei ad-dalu bob blwyddyn yn rhan o Gynllun Young, gyda鈥檙 bwriad o gefnogi鈥檙 Almaen.
- Roedd rhaid i鈥檙 Almaen dalu traean o鈥檙 swm gofynnol bob blwyddyn fel rhan o gytundeb gorfodol 鈥 sef tua $157 miliwn.
- Ond doedd dim rhaid talu鈥檙 ddau draean arall oni bai fod yr Almaen yn gallu fforddio gwneud hynny mewn modd na fyddai鈥檔 niweidio鈥檌 datblygiad economaidd.
Goblygiadau arweinyddiaeth Stresemann, Cynllun Dawes ac Young
Llwyddiant
- Gwellodd yr economi gyda diweithdra'n gostwng, cynnydd mewn cynhyrchiant ffatr茂oedd, a mwy o hyder.
- Cafwyd cynnydd yn nifer y pleidleisiau i bleidiau gwleidyddol oedd yn cefnogi democratiaeth a Gweriniaeth Weimar.
- Ni wnaeth y Comiwnyddion a'r Nats茂aid yn dda yn yr etholiadau o gymharu 芒'r pleidiau a gefnogai Gwerinaeth Weimar. Dim ond 12 o seddi oedd gan y Nats茂aid yn y Reichstag yn 1928.
Problemau
- Roedd Cytundeb Versailles dal yn ei le ac yn llym iawn ar yr Almaen.
- Roedd Pact Locarno yn gwneud y tir a gollwyd o dan Gytundeb Versailles yn rhywbeth parhaol.
- Roedd nifer y milwyr yn brin o hyd, felly roedd yr Almaen yn dal i deimlo'n wan ac yn ddi-amddiffyn.
- Parhaodd yr Almaen i dalu iawndaliadau.
- Roedd pleidleiswyr dal yn amheus o Ddemocratiaeth. Roedd y Comiwnyddion dal yn fygythiad posib; roedd y Nats茂aid yn ail-adeiladu trefniadaeth eu plaid.
- Nid oedd sefydliadau pwysig yr Almaen, fel y fyddin a'r barnwyr, yn gwbl argyhoeddedig yngl欧n 芒 chefnogi Gweriniaeth Weimar.
- Roedd adfer economi'r Almaen yn ddibynnol ar fenthyciadau o'r Unol Daleithiau o dan Gynllun Dawes.
- Bu farw Gustav Stresemann, y gwleidydd oedd yn gyfrifol am wella rhywfaint ar yr Almaen, yn 1929.