Pact Locarno
Nod Gustav Stresemann yn fras yn ei bolisi tramor oedd adfer grym a ffyniant yr Almaen. Ond roedd yn hollol ymwybodol nad oedd yr Almaen mewn sefyllfa i herio grym milwrol y Cynghreiriaid a diwygio Cytundeb Versailles trwy rym. Yn lle hynny, dilynodd Stresemann bolisi o gydweithredu 芒鈥檙 Gorllewin a chymysgedd o gymodi a gwasgu ar y pwerau eraill.
Sylweddolai Stresemann na allai gwledydd eraill fforddio gadael i economi鈥檙 Almaen ddymchwel yn llwyr. Yr enw ar ei strategaeth oedd 贰谤蹿眉濒濒耻苍驳蝉辫辞濒颈迟颈办 (dyhuddiad), sef cyflawni neu gydymffurfio 芒 thelerau Versailles i wella鈥檙 berthynas 芒 Phrydain a Ffrainc.
Fel rhan o鈥檌 bolisi o ddyhuddiad, cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd gweinidogion tramor. Trafodwyd Pact Locarno yn Locarno, y Swistir, ar 5鈥16 Hydref 1925 a鈥檜 llofnodi鈥檔 swyddogol yn Llundain ar 1 Rhagfyr. Arwyddwyd y Pact gan yr Almaen, Prydain, Ffrainc, Gwlad Belg a鈥檙 Eidal.
Beth benderfynwyd?
- Derbyniodd Stresemann ffiniau gorllewinol yr Almaen (ond nid y rhai dwyreiniol).
- Cytunodd pob gwlad i droi cefn ar ddefnyddio grym a goresgyniad, ac eithrio fel hunanamddiffyniad.
- Rhoddodd y Pact sicrwydd i Ffrainc yngl欧n 芒鈥檌 ffiniau ac i鈥檙 Almaen yngl欧n ag unrhyw ymosodiad/oresgyniad gan Ffrainc, fel a ddigwyddodd yn 1923.
- Llofnododd yr Almaen gytundebau cyflafaredduFfordd o setlo anghydfod trwy ddefnyddio rhywun amhleidiol i benderfynu ar y canlyniad. hefyd gyda Gwlad Pwyl a Tsiecoslofacia yn troi cefn ar ddefnyddio grym ac yn addo cyfeirio unrhyw anghydfod yn y dyfodol i dribiwnlys cyflafareddu neu i鈥檙 Llys Parhaol dros Gyfiawnder Rhyngwladol. (Nid oedd hyn fodd bynnag yn golygu bod yr Almaen yn derbyn ei ffiniau dwyreiniol).
Effaith y Pact
Fe wnaeth y cytundebau wella鈥檙 berthynas rhwng gwledydd Ewrop hyd at 1930. Arweiniodd at y gred y ceid setliad heddychlon i unrhyw anghydfod yn y dyfodol. Cyfeiriwyd at hyn yn aml fel ysbryd Locarno. Atgyfnerthwyd hyn ymhellach pan ymunodd yr Almaen 芒 Chynghrair y Cenhedloedd yn 1926.
Aeth y Cynghreiriad o Gwlen, a fu wedi鈥檌 meddiannu ganddynt, yn Rhagfyr 1925. Rhoddwyd Gwobr Heddwch Nobel i brif negodwyr y Pact 鈥 Chamberlain yn 1925 a Briand a Stresemann yn 1926.