Y berthynas gyda Chynghrair y Cenhedloedd
Fel rhan o鈥檌 bolisi dyhuddiad, roedd Gustav Stresemann yn awyddus i lywio鈥檙 Almaen i mewn i Gynghrair y Cenhedloedd. Sefydlwyd y corff rhyngwladol hwn gan Gytundeb Versailles ac ymunodd yr Almaen ym Medi 1926. Roedd angen cael mynediad i鈥檙 Gynghrair er mwyn i Gytundeb Locarno ddod i rym.
Rhoddwyd statws grym mawr i鈥檙 Almaen ar Gyngor y Gynghrair fel aelod parhaol ac felly roedd ganddi鈥檙 hawl i osod feto ar benderfyniadau.
Oherwydd y cyfyngiadau milwrol a osodwyd yn Versailles, caniatawyd yr Almaen i beidio 芒 chymryd rhan mewn ymladd ar y cyd gan y Gynghrair yn erbyn gwrthwynebwyr. Defnyddiodd yr Almaen ei safle fel aelod parhaol i godi materion oedd o fudd i鈥檙 Almaenwyr o fewn y Gynghrair.
Buddsoddiad yr Unol Daleithiau
Rhwng 1924 ac 1930, derbyniodd yr Almaen 135 o fenthyciadau hirdymor yn gyfanswm o $1,430 miliwn. Daeth $1,293 miliwn o goffrau鈥檙 Unol Daleithiau. Cawsant fenthyciadau tymor byr hefyd yn gyfanswm o $1,560 miliwn.
Daeth y benthyciadau Americanaidd yn uniongyrchol oddi wrth y llywodraeth ac oddi wrth fuddsoddwyr preifat. Fe鈥檜 rhoddwyd i lywodraethau ffederal a gwladwriaethol yr Almaen ill dwy i godi arian ar gyfer gwahanol raglenni gwario, fel tai. Aeth benthyciadau o America i gwmn茂au preifat hefyd i鈥檞 helpu i dyfu.
Buddsoddodd cwmn茂au Americanaidd yn uniongyrchol. Adeiladwyd ffatr茂oedd gan 79 o gwmn茂au Americanaidd, fel General Electric (GE) a General Motors.
O ganlyniad i鈥檙 buddsoddi hwn, c芒i Americanwyr daliadau llog ar eu benthyciadau, neu daliadau bonws o鈥檜 buddsoddiadau.