Yr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939
Trosolwg Yr Almaen mewn cyfnod o newid
Them芒u a materion yn ymwneud 芒 hanes yr Almaen yn y cyfnod 1919-1939.
Effaith y Rhyfel Byd Cyntaf
O ganlyniad i golli鈥檙 Rhyfel Byd Cyntaf, roedd llywodraeth newydd yr Almaen, Gweriniaeth Weimar, yn wynebu cyfres o heriau economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a rhyngwladol. Pa sialensiau wnaeth wynebu Gweriniaeth Weimar rhwng 1919 a 1923?
Adferiad Weimar
Rhwng 1923 a 1929, profwyd oes aur yn yr Almaen o dan Weriniaeth Weimar. Helpodd y gwleidydd blaenllaw, Gustav Stresemann, i sicrhau benthyciadau o America i adfer yr economi, a chytundebau rhyngwladol i helpu i ail-adeiladu lle鈥檙 Almaen ymhlith prif genhedloedd y byd. Pam cafodd blynyddoedd Stresemann eu hystyried yn oes aur?
Diwedd Gweriniaeth Weimar
Arweiniodd Cwymp Wall Street a鈥檙 ffaith bod America wedi tynnu arian yn 么l, at ddirwasgiad economaidd difrifol yn yr Almaen. Erbyn 1932, roedd 6 miliwn o Almaenwyr yn ddi-waith a dechreuodd y system wleidyddol ddadfeilio wrth i nifer o Almaenwyr cyffredin droi at bleidiau eithafol. Sut a pham gwnaeth Gweriniaeth Weimar ddymchwel rhwng 1929 a 1933?
Atgyfnerthu grym
Ym mis Ionawr 1933, doedd dim disgwyl i Hitler oroesi鈥檔 hir fel Canghellor wrth iddo arwain llywodraeth glymblaid gyda dim ond dau o Nats茂aid eraill yn y cabinet. Serch hynny, dim ond 18 mis yn ddiweddarach, fe wnaeth ddatgan ei hun yn unben a F眉hrer yr Almaen. Sut gwnaeth y Nats茂aid atgyfnerthu eu grym rhwng 1933 a 1934?
Polisi economaidd, cymdeithasol a hiliol y Nats茂aid
Roedd Hitler wedi amlinellu ei syniadau yn Mein Kampf. O 1933 ymlaen, roedd gweithredu'r syniadau hyn yn effeithio ar sawl agwedd ar fywyd yr Almaen. Sut gwnaeth polisi economaidd, cymdeithasol a hiliol y Nats茂aid effeithio ar fywyd yn yr Almaen?
Arswyd a phersw芒d
Gorfodwyd credoau Nats茂aidd ar boblogaeth yr Almaen drwy ddefnyddio cyfuniad o ddulliau cyflyru a braw. Roedd y peiriant propaganda dan arweiniad Joseph Goebbels yn annog pobl i dderbyn credoau, syniadau a gwerthoedd y Nats茂aid. Pa ddulliau wnaeth y Nats茂aid eu defnyddio i reoli'r Almaen?
Polisi tramor Hitler
Pa ffactorau wnaeth arwain at ddechreuad y rhyfel yn 1939?