91热爆

Arswyd a phersw芒dPropaganda a Rheolaeth

Gorfodwyd credoau Nats茂aidd ar boblogaeth yr Almaen drwy ddefnyddio cyfuniad o ddulliau cyflyru a braw. Roedd y peiriant propaganda dan arweiniad Joseph Goebbels yn annog pobl i dderbyn credoau, syniadau a gwerthoedd y Nats茂aid. Pa ddulliau wnaeth y Nats茂aid eu defnyddio i reoli'r Almaen?

Part of HanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Propaganda a Rheolaeth

Y Wladwriaeth Heddlu

Erbyn Awst 1934 roedd Hitler yn unben 芒 grym absoliwt. Er mwyn cadw鈥檙 grym hwn roedd arno angen cyrff a allai reoli鈥檙 boblogaeth i sicrhau teyrngarwch absoliwt i鈥檙 F眉hrer. Wedi cwymp yr ar Noson y Cyllyll Hirion, roedd tri phrif gorff cydgysylltiedig (yn ogystal 芒鈥檙 heddlu Almaenig rheolaidd) yn ymwneud 芒 rheoli pobl yr Almaen trwy ysb茂o, brawychu a charcharu petai angen.

Strwythur sefydliad y Schutzstaffel (SS), y Gestapo a鈥檙 Sicherheitsdienst (SD).
  • Schutzstaffel (SS) - Dan arweiniad Heinrich Himmler, yr SS oedd y pwysicaf o鈥檙 cyrff hyn ac roedd yn goruchwylio鈥檙 lleill. Wedi鈥檌 sefydlu鈥檔 wreiddiol fel gwasanaeth gwarchodwyr personol Hitler, roedd yr SS yn ffanatig o deyrngar i鈥檙 F眉hrer. Yn ddiweddarach fe sefydlodd wersylloedd crynhoi lle anfonid 鈥榞elynion y wladwriaeth鈥.
  • Gestapo - Dyma heddlu cudd y Nats茂aid. Eu gwaith oedd monitro poblogaeth yr Almaen am arwyddion o wrthwynebiad neu wrthsafiad i reolaeth y Nats茂aid. C芒i gymorth mawr gan bobl gyffredin yr Almaen a fyddai鈥檔 cario straeon am eu cyd-ddinasyddion.
  • Sicherheitsdienst (SD) - Dyma asiantaeth gasglu gwybodaeth yr SS. Roedd yn gyfrifol am ddiogelwch Hitler ac uwch Nats茂aid eraill ac yn cael ei harwain gan brif gynorthwywr Himmler, Reinhard Heydrich.

Awgrym adolygu:

Dyma mnemonig da i dy helpu i gofio rhai o brif nodweddion y pwnc hwn:

  • Himmler 鈥 Pennaeth yr Heddlu
  • Sy鈥檔 鈥 Yr SS
  • Gwylio鈥檔 鈥 Y Gestapo
  • Sydyn 鈥 Yr SD

Rheolaeth Nats茂aidd ar y system gyfreithiol

Ni fu鈥檙 Nats茂aid fawr o dro yn sgubo i ffwrdd lawer o鈥檙 rhyddid yr oedd Almaenwyr wedi鈥檌 fwynhau dan gyfansoddiad Weimar. Gan fod y blaid yn rheoli鈥檙 system gyfreithiol roedd gwrthwynebu鈥檙 drefn yn anodd dros ben:

  • Roedd rhaid i farnwyr dyngu llw ffyddlondeb i Hitler a disgwylid iddynt bob amser weithredu er budd y wladwriaeth Nats茂aidd.
  • Roedd rhaid i bob cyfreithiwr ymuno 芒鈥檙 Gymdeithas Gyfreithwyr Nats茂aidd, a olygai y gellid eu rheoli.
  • Cafodd r么l cyfreithwyr amddiffyn mewn achosion troseddol ei gwanhau.
  • Dil毛wyd cosb safonol am droseddau ac felly gallai erlynwyr lleol benderfynu pa gosbau i鈥檞 rhoi i rai a gafwyd yn euog.

Llwyddodd y newidiadau hyn i fwy na haneru nifer y troseddau a gyflawnwyd rhwng 1933 ac 1939, tra bod nifer y troseddau a gariai鈥檙 gosb eithaf wedi cynyddu o 3 i 46. Ar ddiwedd eu dedfrydau, yn hytrach na rhyddhau troseddwyr cafodd llawer ohonynt eu symud i鈥檙 nifer cynyddol o wersylloedd crynhoi oedd yn cael eu sefydlu gan yr SS.

Gwersylloedd crynhoi

Yn 1933, agorwyd y gwersyll cyntaf yn Dachau tu allan i Munich. Cyn hir, cafwyd gwersylloedd eraill gan gynnwys Buchenwald, Mauthausen a Sachsenhausen. Eglurwyd mai llefydd i gadw gelynion y wladwriaeth oedd y gwersylloedd crynhoi. Roedden nhw wedi'u "crynhoi" mewn un lle ar gyfer ail-addysgu gwleidyddol.

Gwisgai'r carcharorion driongl lliw er mwyn dangos eu trosedd:

  • gwrthwynebwyr gwleidyddol
  • troseddwyr
  • sipsiwn
  • Iddewon
  • ffigurau crefyddol penodol

Roedd bywyd yn y gwersylloedd crynhoi yn hynod o anodd. Gorfodwyd gweithwyr i fyw ac i weithio mewn amodau dychrynllyd.

Pan ddaeth adroddiadau o brofiadau鈥檙 carcharorion i'r amlwg, roedd yn dwys谩u ofn pobl o gael eu harestio. Roedd yr ofn yn helpu'r Nats茂aid i gadw rheolaeth.