Natsïaid yn rheoli diwylliant a’r celfyddydau
Celfyddyd
Roedd cyfnod Weimar wedi gweld celf Almaenig yn ffynnu, llawer ohoni’n gelf haniaethol. I Hitler roedd y gelf fodern hon yn ddirywiedig a chafodd dros 6,500 o weithiau celf eu tynnu allan o arddangosfeydd ledled yr Almaen. Anogodd Hitler ‘gelf Ariaidd’ yn eu lle, a ddangosai rym corfforol a milwrol yr Almaen a’r hil Ariaidd.
ʱԲïٳ
Roedd gan Hitler ddiddordeb mawr mewn pensaernïaeth a chredai y gellid ei defnyddio i gyfleu grym y gyfundrefn Natsïaidd. Pensaer pwysicaf y cyfnod oedd Albert Speer, a ailddyluniodd ddinas Berlin, yn ogystal â dylunio’r stadiwm yn Nuremberg lle cynhelid ralïau blynyddol.
Llenyddiaeth
Aeth y Natsïaid ati’n seremonïol yn 1933 i losgi miloedd o lyfrau y barnwyd eu bod yn danseiliol neu’n cynrychioli ideolegau a oedd yn groes i Natsïaeth. Ymhlith y rhain roedd llyfrau gan awduron Iddewig, pasiffistaidd, clasurol, rhyddfrydol, anarchaidd, sosialaidd a chomiwnyddol.
Ffilm
I sicrhau bod y byd ffilm yn gwasanaethu amcanion propaganda, cymerodd y Blaid Natsïaidd reolaeth yn raddol dros gynhyrchu a dosbarthu ffilmiau. Sefydlwyd ysgol broffesiynol wladwriaethol i wneuthurwyr ffilmiau gwleidyddol ddibynadwy, ac roedd rhaid i bob actor a gwneuthurwr ffilmiau ddod yn aelodau o gymdeithas broffesiynol swyddogol (Reichsfilmkammer). Yn aml byddai arweinwyr y Natsïaid yn defnyddio sêr y byd ffilmiau, fel Lil Dagover, i helpu hyrwyddo poblogrwydd y blaid yn yr Almaen.
Cerddoriaeth
Ym myd cerddoriaeth glasurol, gwaharddwyd gweithiau gan gyfansoddwyr Iddewig fel Mendelssohn a Mahler a hyrwyddwyd gweithiau’r cyfansoddwr Almaenig Wagner, gan ennill poblogrwydd mawr iddo. Roedd y Natsïaid yn chwyrn yn erbyn cerddoriaeth jazz; cyfeirient ati fel cerddoriaeth Negro a’i galw’n ddirywiedig.
Mae diddordeb y Natsïaid yn yr holl feysydd hyn, a’u dylanwad drostynt, yn dangos i ba raddau y ceisiodd y blaid reoli bywyd yr Almaen a denu’r boblogaeth at yr achos Natsïaidd.