Amcanion polisi tramor
Roedd gan Hitler dri phrif nod yn ei bolisi tramor:
- diwygio Cytundeb Versailles
- uno鈥檙 holl bobl Almaeneg eu hiaith mewn un Reich
- ehangu tua鈥檙 dwyrain i sicrhau LebensraumRhwng 1921 ac 1925, datblygodd Adolf Hitler y gred fod angen i鈥檙 Almaen gael Lebensraum (gofod byw) er mwyn goroesi. Roedd yr argyhoeddiad y gellid cael y gofod byw hwn yn y dwyrain yn unig, ac yn benodol o Rwsia, yn ganolog i'r syniad hwn.
Mae haneswyr wedi anghytuno yngl欧n ag amcanion Hitler. Dadleuodd A J P Taylor nad aeth Hitler ati鈥檔 fwriadol i geisio rhyfel dinistriol. Yn hytrach, oportiwnydd oedd Hitler a enillodd dir yn ei bolisi tramor drwy weithredu uniongyrchol 芒 hyfdra.
Mae Hugh Trevor-Roper wedi dadlau bod gan Hitler gynllun tymor hir 鈥 rhaglen o drefedigaethu Dwyrain Ewrop a rhyfel o goncwest yn y Gorllewin. Arweiniodd y Stufenplan, y polisi graddol hwn, at ryfel.
Mae鈥檔 debyg mai鈥檙 ddadl fwyaf argyhoeddiadol yw bod Hitler yn gyson yn ei amcanion, ond ei fod hefyd yn oportiwnydd a oedd yn hyblyg yn ei strategaeth.
Roedd tri cham i鈥檞 bolisi tramor:
- Polisi cymedrol hyd at 1935
- Gweithgarwch cynyddol rhwng 1935 ac 1937
- Polisi tramor mwy hyderus ar 么l 1937, yn y sicrwydd na fyddai fawr ddim gwrthwynebiad i鈥檞 gynlluniau
Ailarfogi a chonsgripsiwn
Roedd ailarfogi鈥檔 fodd i greu swyddi yn y diwydiant arfau gan wthio鈥檙 syniad 鈥榞ynnau cyn menyn鈥. Dechreuwyd ailarfogi bron cyn gynted ag y daeth Hitler i rym ond fe鈥檌 cyhoeddwyd i鈥檙 byd a鈥檙 betws yn 1935.
Gyda chyflwyno gwasanaeth cenedlaethol byddai pob dyn ifanc yn treulio chwe mis yn y RAD ac wedyn yn cael eu consgriptio i鈥檙 fyddin. Erbyn 1939, roedd 1.4 miliwn o ddynion yn y fyddin, felly nid oeddent yn cael eu cyfri鈥檔 ddi-waith.
Yn Ionawr 1935, cafodd poblogaeth ardal lofaol Saar, a wahanwyd oddi wrth yr Almaen gan gytundebau ar 么l y rhyfel, yr hawl i pleidlais gwladDeddfwriaeth neu gynnig y mae llywodraeth yn ei roi i bleidleiswyr i鈥檞 dderbyn neu ei wrthod., a dangosodd fod dros 90 y cant o'r boblogaeth eisiau ail-uno 芒'r Almaen. Gwelodd Hitler hyn fel buddugoliaeth fawr oherwydd dyma'r anghyfiawnder cyntaf i'w wrthdroi yn sgil Cytundeb Versailles.