Y Sudetenland 1938
Trodd Hitler ei sylw at Tsiecoslofacia ar 么l ei fuddugoliaeth gyda鈥檙 Anschluss. Roedd arno eisiau datgymalu鈥檙 wlad ddemocrataidd hon drwy ba bynnag fodd fyddai鈥檔 gweithio. Roedd Tsiecoslofacia鈥檔 aelod o Gynghrair y Cenhedloedd ac wedi cynghreirio 芒 Ffrainc a鈥檙 Undeb Sofietaidd. Fodd bynnag, roedd lleiafrifoedd mawr o fewn Tsiecoslofacia. Roedd hynny鈥檔 cynnwys 3 miliwn o Almaenwyr yn yr ardal a adwaenid fel y Sudetenland.
Digwyddiadau allweddol
Yn gynnar yn 1938, mae arweinydd yr Almaenwyr yn y Sudetenland, Konrad Henlein, yn cwyno bod Almaenwyr Sudeten yn cael eu cam-drin gan Tsieciaid.
30 Mai 1938 鈥 Hitler yn cyhoeddi cynlluniau i ddinistrio Tsiecoslofacia erbyn 1 Hydref.
12 Medi 1938 鈥 Hitler yn gwneud araith yn ymosod ar Tsiecoslofacia.
15 Medi 1938 鈥 Neville Chamberlain, Prif Weinidog Prydain, yn hedfan i weld Hitler yn y Berghof ac yn cytuno y dylai Tsiecoslofacia roi pob ardal oedd yn cynnwys 50 y cant o Almaenwyr Sudeten i鈥檙 Almaen. Prydain a Ffrainc yn perswadio Tsiecoslofacia i gytuno.
22 Medi 1938 鈥 Chamberlain yn llwyddo i berswadio Edvard Bene拧, Arlywydd Tsiecoslofacia, i dderbyn gofynion yr Almaen. Chamberlain yn cyfarfod 芒 Hitler yn Bad Godesberg yn llawn hyder bod yr argyfwng ar ben. Ond roedd Hitler wedi newid ei feddwl ac eisiau鈥檙 Sudetenland erbyn 1 Hydref. Y trafodaethau鈥檔 methu ac roedd gwir ofn rhyfel yn Ewrop bellach. Chamberlain yn perswadio Mussolini, unben yr Eidal, i drefnu cynhadledd yn Munich i drafod cwestiwn y Sudetenland.
29-30 Medi 1938 鈥 Prydain, Ffrainc, yr Almaen a鈥檙 Eidal yn cyfarfod yn Munich. Yn dyngedfennol, nid oedd Tsiecoslofacia a鈥檙 Undeb Sofietaidd yn bresennol. Cytunodd y pedair gwlad i鈥檙 Almaen feddiannu鈥檙 Sudetenland rhwng 1 a 10 Hydref. Lluoedd yr Almaen yn meddiannu鈥檙 Sudetenland.
Dinistr terfynol Tsiecoslofacia - 1939
Dim ond yr Almaenwyr yn y Sudetenland oedd yn destun cytundeb Munich. Nid oedd yn dweud dim am yr agos at 2 filiwn o Almaenwyr oedd yn byw yn Bohemia a Moravia. Symudodd Hitler nawr i ddod 芒 hwythau dan reolaeth yr Almaen.
Gan ddefnyddio鈥檙 un tactegau ag o鈥檙 blaen, honnodd fod Almaenwyr yn cael eu trin yn annheg. Hawliodd fod llywodraeth Tsiecoslofacia wedi colli rheolaeth ac y dylid anfon byddin yr Almaen i mewn i adfer trefn.
Gwahoddodd Hitler yr Arlywydd Hacha i Berlin ar 14 Mawrth 1939 a鈥檌 gadw鈥檔 aros tan 01:15 tra roedd Hitler yn gorffen gwylio ffilm. Mynnodd Hitler bod Hacha yn cytuno i hollti Tsiecoslofacia o fewn ychydig oriau. Am 04:00, ildiodd yr Arlywydd Hacha i ofynion Hitler a gorymdeithiodd lluoedd yr Almaen i mewn i Prague ar 15 March 1939. Goresgyniad oedd hyn, a dim byd arall.
Ehangodd yr Almaen gan ennill adnoddau gwerthfawr gan fod Tsiecoslofacia鈥檔 gyfoethog mewn glo ac yn berchen ar ffatri arfau enfawr Skoda.