91ȱ

Mudo – 16eg, 17eg a'r 18fed ganrif

Llinell amser sy’n dangos prif ddigwyddiadau mudo o’r mewnfudo o Affrica ac Asia i Brydain rhwng 1500-1700 hyd at y Piwritaniaid yn dylanwadu ar sefydlu’r UDA yn y 1770au

Gydol yr 16eg a’r 17eg ganrif, o ganlyniad i’r oes fforio a theithio ar y môr daeth tiroedd newydd ar gael i’w darganfod, i'w concro ac i fasnachu, a chafwyd cynnydd yn y bobl a oedd yn mudo i mewn ac allan o Brydain.

Fe wnaeth gwahaniaethau crefyddol orfodi rhai grwpiau, fel yr Hiwgenotiaid Protestannaidd o Ffrainc i ddianc rhag a mewnfudo i Brydain. Ymsefydlodd dros 50,000 o fewnfudwyr Hiwgenotaidd mewn mannau fel Spitalfields yn Nwyrain Llundain, a Fleur De Lys yn ne Cymru, a chaniatawyd dinasyddiaeth iddyn nhw dan Ddeddf Dinasyddio Protestaniaid Tramor 1708. Maen nhw wedi cael eu galw’n ‘ffoaduriaid cyntaf Prydain’.

Daeth mewnfudwyr eraill i ymsefydlu yr adeg hon. Daeth y fasnach gaethwasiaeth â phobl ddu o Affrica i fyw a gweithio yn y DU, yn enwedig yn Llundain, ac yn yr 17eg ganrif daeth yr East India Company â llongwyr o India a oedd yn cael eu galw’n lascars i weithio ar eu llongau. Ymsefydlodd miloedd mewn trefi a oedd yn borthladdoedd.

Yn ogystal â , roedd hefyd. Fe wnaeth yr ymchwil am ryddid crefyddol a gwleidyddol orfodi’r Tadau Pererin i adael Plymouth am yr Unol Daleithiau yn 1620.

Parhaodd y Piwritaniaid i ymsefydlu yn nhrefedigaethau America, ac yn yr 1680au dilynwyd nhw yno gan grŵp crefyddol arall a oedd yn cael ei erlid, sef y . Eu harweinydd oedd William Penn a helpodd i sefydlu Pennsylvania yn 1681 a Philadelphia yn 1682. Cafodd Piwritaniaid ddylanwad mawr ar sefydliad yr Unol Daleithiau yn yr 1770au.