91ȱ

Mudo – 20fed a'r 21ain ganrif

Llinell amser sy’n dangos y prif ddigwyddiadau mudo o’r mewnfudo o Loegr i Gymru rhwng 1901-1910 hyd at gynnydd yn y mewnfudo o’r EU i’r DU yn 1997

Rhwng 1901 a 1910, parhaodd y mudo o Loegr i Gymru wrth i ddiwydiannau fel y pyllau glo ddenu gweithwyr. Fodd bynnag, dechreuodd pobl bryderu am effeithiau economaidd tybiedig y mewnfudo parhaus, yn enwedig o ddwyrain Ewrop.

Yn 1905, pasiwyd y Ddeddf Estroniaid, a osododd gyfyngiadau ar fewnfudo am y tro cyntaf. Pasiwyd y ddeddf yn rhannol oherwydd a oedd yn tyfu yn erbyn y mewnfudwyr hyn a oedd gan fwyaf yn Iddewon. Erbyn yr 1930au, yr oedd caledi’r Dirwasgiad yng Nghymru wedi gwrthdroi’r duedd flaenorol o fudo economaidd, a gwelwyd llawer o bobl o Gymru’n gadael i fynd i fannau fel Rhydychen, Coventry a Llundain i weithio mewn ffatrïoedd neu mewn gwasanaeth.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, arweiniodd prinder gweithwyr at Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1948, a oedd yn annog mewnfudo o’r Gymanwlad i Brydain. Dros y degawdau nesaf, byddai llawer o bobl o India’r Gorllewin, India, Pacistan a Bangladesh yn dod i’r DU, gan geisio dyfodol gwell yn y wlad yr oedden nhw yn ei hystyried yn ‘famwlad’ iddyn nhw. Cafodd hyn effaith sylweddol ar gymdeithas a Prydeinig, yn fwyaf amlwg mewn meysydd fel bwyd, a thwf cymdeithas fwy amlddiwylliannol. Gwelwyd yr un broses yn gweithio i’r gwrthwyneb yn yr 1950au a’r 1960au, wrth i economi Awstralia dyfu gan alw am fwy o weithwyr medrus ac ymfudodd llawer o Brydain yno.

Roedd yr agweddau tuag at fewnfudo’n gymysg, ac roedd ymateb negyddol ym Mhrydain yn yr 1960au a’r 1970au. Aeth llywodraethau ati i basio deddfau fel Deddf Mewnfudwyr o’r Gymanwlad 1968 a Deddf Mewnfudo 1971 i gyfyngu ymhellach ar fewnfudo o drefedigaethau blaenorol, a gallai peth o’r ymateb tuag at fewnfudwyr fod yn eithafol a hiliol.

Fodd bynnag, yr oedd aelodaeth Prydain o’r a thwf parhaus teithiau awyr rhatach yn golygu, erbyn diwedd yr 20fed ganrif bod mudo o’r UE i’r DU yn cynyddu. Yn ogystal â mudo economaidd, mae Prydain wedi parhau i dderbyn ffoaduriaid o wrthdaro ledled byd mewn mannau fel Somalia ac Irac. Mae ymfudo hefyd yn parhau ac mae’n cael ei amcangyfrif bod nifer y bobl o Brydain sy’n byw dramor heddiw yn o leiaf 5 miliwn.