91ȱ

Mudo – 18fed a'r 19eg ganrif

Llinell amser sy’n dangos y prif ddigwyddiadau mudo o 1750-1900 lle gwelwyd mewnfudo ardaloedd gwledig/diwydiannol ym Mhrydain hyd at ddechrau’r mewnfudo o’r Eidal i Gymru ddiwedd y 19eg ganrif

O ddiwedd y 18fed ganrif, profodd Prydain y , a oedd yn annog gweithwyr i fudo o gefn gwlad i’r dinasoedd newydd a oedd yn tyfu, i chwilio am waith. Gwelodd mannau fel melinau cotwm Swydd Gaerhirfryn a gweithfeydd haearn de Cymru fudo o ardaloedd ar draws Lloegr ac Iwerddon.

Cafodd y broses o ymfudo torfol o Iwerddon i Brydain ac America ei chyflymu gan newyn tatws 1845-49 yn Iwerddon, a oedd yn cael ei alw’n , ac aeth Catholigion Iwerddon ymlaen i gael dylanwad sylweddol ar fywyd a gwleidyddiaeth America mewn mannau fel Efrog Newydd.

Yr oedd Cymry wedi chwarae rhan sylweddol yn y mudo gan y Crynwyr i’r Unol Daleithiau, ond erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg mewn ardaloedd fel Pennsylvania ac Ohio roedd galw economaidd mawr am sgiliau diwydiannol a mwyngloddio’r Cymry. Rhoddwyd yr enw ‘Little Wales’ ar Jackson County, Ohio, hyd yn oed. Yn 1865, hwyliodd 150 o ymfudwyr o Gymru ar fwrdd y Mimosa i Batagonia, yr Ariannin, i sefydlu trefedigaeth Gymreig o’r enw Y Wladfa.

Wrth i gludiant ar y môr ac ar reilffyrdd wella, cynyddodd llif pobl. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd mewnfudwyr o’r Eidal wedi dod â’u bwyd a’u diodydd i Gymru, ac yn fwyaf enwog eu hufen ia, tra cyrhaeddodd Iddewon a elwid yn 'pogroms' a oedd yn ffoi rhag ffyrnig yn Rwsia.