91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Cardi Bach
Yr orsedd Anrhydeddu pobl leol
Gorffennaf 2006
Caiff nifer o bobl leol eu hanrhydeddu eleni gan yr Orsedd. Dyma hanes rhai ohonyn nhw.
Urdd Ofydd er Anrhydedd
Phyllis Bell, Felindre
Bu Ms Bell ar un amser yn gweithio yn y felin ddur a safai ar y llecyn sy'n safle i'r Eisteddfod eleni. Mae hi ynghlwm â'r ysgol leol ymhob math o ffyrdd o fod yn ofalydd i fod yn Llywodraethwr. Bu'n arwain Eisteddfod Gadeiriol Felindre er 1970, bu'n gofalu am Aelwyd yr Urdd.

Brenig Davies, Pontiets
Mae'n ddawnsiwr gwerin brwd, ac wedi gweithio mewn meysydd cysylltiedig â Chymdeithaseg gwasanaethodd ym maes Iechyd Meddwl yn ne orllewin Cymru am flynyddoedd. Mae'n weinidog lleyg ar eglwysi yn y cylch.

Eifion Davies, Pontarddulais
Arlunydd dawnus a thu hwnt i'w waith fel athro celf bu'n gefn i lu o weithgareddau cymdeithasol ei ardal gan gynnwys gwaith gyda'r ieuenctid.

Sally Evans, Pontarddulais
Bu Ms Evans yn deyrngar i fyd yr eisteddfod, yn lleol a chenedlaethol. Ers dros hanner canrif bu'n mynychu'r brifwyl, gan wasanaethu fel stiward yn ystod yr 28 blynedd diwethaf.

Brian Humphreys, Brynaman Un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Gymraeg Lôn-las. Mae ei wasanaeth fel cynghorydd, ei gyfraniad i'w eglwys ym Mrynaman, ei ymroddiad i'r henoed a'r aelwyd ym Mrynaman, yn ogystal ag i'r papur bro, Y Llais, yn amhrisiadwy.

Beti Wyn James, Caerfyrddin
Yn hanu o Glydach. Ymgymerodd â gweinidogaethu yn y Barri lle bu'n helaeth iawn ei chyfraniad i fywyd Cymraeg y dre honno, ac yn ddolen bwysig rhwng yr Eglwys Gymraeg a'r Ysgolion Cymraeg. Gwasanaethodd ar fyrddau Llywodraethol yr Ysgolion, a bu'n Llywydd y Cymrodorion.

Helen Jones, Felindre
Hi yw ysgrifennydd ac asgwrn cefn Eisteddfod Felindre. Mae hi'n ddiacones weithgar yn ei heglwys tra bu'n athrawes mewn gwahanol ysgolion yn y cyffiniau.

T. Graham Williams, Rhiwfawr, Cwmtawe
Bu'n löwr ond fe aeth ymlaen â'i addysg gan raddio yn y Brifysgol Agored. Y mae ganddo ddawn arbennig i ddehongli a chyflwyno gwaith Dylan Thomas, a gelwir arno yn aml i berfformio'i waith. Mae'n awdur ac eisteddfodwr diwyd.

Urdd Derwydd er Anrhydedd
Eric Davies, Gwaun-cae-Gurwen
Bu'n drysorydd yr Eisteddfod Genedlaethol am dros 10 mlynedd. Yn gyfrifydd wrth ei alwedigaeth mae'n llefarydd cyson ar ran C.B.I. Cymru. Bu'n gefnogol i fudiadau Cymraeg gan gynnwys Mentrau Iaith yn Sir Gaerfyrddin.

Alwyn Humphreys, Caerdydd
Cafodd ei fagu ym Modffordd yn Ynys Môn. Cyfansoddodd a threfnodd gerddoriaeth ar gyfer llu o gorau, a bu'n arwain Côr Orffiws Treforys drwy gyfnod arbennig o lwyddiannus am chwarter canrif. Yn ystod bron yr un cyfnod bu'n cyflwyno'r rhaglenni llwyfan y Genedlaethol a'r Urdd.

David Gwyn John, Treforys
Dechreuodd weithio fel athro ail-iaith mewn ardal ddifreintiedig yn Abertawe. Bu'n brifathro Ysgol Gymraeg Lôn-las, ac yn arwain Aelwyd yr Urdd Treforys, ac yn gefnogwr brwd i'r Urdd ac eisteddfodau.

Prys Morgan, Abertawe
Yn llenor, yn hanesydd a darlledwr, gwasanaethodd Mr Morgan fel golygydd amryw o gyfnodolion a chyfrolau ysgolheigaidd, yn aelod a chadeirydd cyrff cenedlaethol fel pwyllgor llenyddol Cyngor y Celfyddydau a Phwyllgor Adeiladau Cymru. Eleni fe'i hurddwyd yn Llywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Er 2002 y mae'n Athro Emeritws Prifysgol Cymru.

Urdd Llenor (Gwisg Las)
Craig Howard - Tregof, Abertawe
Rachel Anwen Jones - Gelli Fedw
Daniel Rhys Tiplady - Llangyfelach
Nesta Mair Tiplady - Llangyfelach

Urdd Cerddor (Gwisg Las)
Nia Sian Davies - Pontlliw

Urdd Ofydd er Anrhydedd
Richard Allen, Casllwchwr - Enillydd y Rhuban Glas Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau 2003


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý