Bydd llawer o ddarllenwyr Wilia yn cofio ymweliad diwethaf yr Eisteddfod a'r ddinas ym 1982 pan gafodd yr wyl ei chynnal ym Mharc Singleton. Dyma un o eisteddfodau mwyaf llwyddiannus yr wythdegau a'r gobaith yw gallu ailadrodd y llwyddiant hwnnw yn 2006. Anerchwyd y cyfarfod gan Lywydd Llys yr Eisteddfod, Alun Evans yn ogystal â chadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, Hugh Thomas, y cyfarwyddwr, Elfed Roberts, trefnydd y de, Aled Siôn a phennaeth diwylliant a thwristiaeth Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Iwan Davies. Roedd Alun Evans wrth ei fodd â'r ymateb gan y cyhoedd ar y noson. "Mae'n ddechrau da iawn", meddai gan nodi mai cyfarfod y Brangwyn oedd un o'r cyfarfodydd gorau a welwyd o ran dangos cefnogaeth frwd i wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol i ardal. Dywedwyd yn y cyfarfod fod cynnal yr eisteddfod yn dod â hwb economaidd i'r ardal lle'i cynhelir - er enghraifft, gwariwyd tua £6.4 miliwn yn ardal Llanelli yn 2000 ac amcangyfrifir chwistrelliad o £7 miliwn i economi dinas Abertawe pan ddaw'r eisteddfod yn 2006. Wrth gwrs, does dim penderfyniad hyd yn hyn ynglyn â lleoliad maes yr eisteddfod er bod Cyngor y ddinas o blaid defnyddio safle hen waith dur Felindre. Ond un o fanteision mwyaf cynnal yr eisteddfod yn Abertawe fydd yr effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar safle'r Gymraeg yn y ddinas ynghyd â chodi ymwybyddiaeth am yr iaith yma. Yn dilyn eisteddfod 1982, gwelwyd sefydlu cymdeithas Ty Tawe a nifer y dysgwyr yn y dosbarthiadau Wlpan yn treblu. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae datblygiadau eraill ym maes addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn y ddinas a Menter Iaith Abertawe yn golygu bod y potensial o ran hybu'r Gymraeg yma yn sylweddol. Ar ddiwedd y cyfarfod awgrymwyd enwau ar gyfer pwyllgor llywio I fynd âr gwaith yn ei flaen. Bydd y pwyllgore yn cwrdd am y tro cyntaf ar nos Fawrth 18 Tachwedd pan fydd cyfle I gyfethol aelodau eraill. Y gobaith yw y bydd yn adlewyrchu holl rychwant a phrofiadau bywyd Cymraeg dinas Abertawe yn yr unfed ganrif ar hugain.
|