Roedd Glyn Ellis wedi nodi y byddai'n gorffen fel cyfarwyddwr ar ôl y ddrama hon,
ac yntau wedi bod yn gysylltiedig â'r ddrama Gymraeg yn Abertawe am 54 o flynyddoedd.
Ar ddiwedd y ddrama nos Wener, cyflwynodd Griff Williams gloc i Glyn Ellis, i ddiolch iddo am oes o wasanaeth i'r ddrama yn Abertawe.
Ar hyn o bryd roedd Glyn Ellis yn chwarae rhan fawr ym mharatoadau Eisteddfod Abertawe 2006, yn Nhreforys ac ar y Pwyllgor Gwaith. Gwelir ei golli'n fawr.
Cydymdeimlwn yn ddwys â'i deulu.
|