![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Mae yma farddoniaeth o oes y cywyddwyr ymlaen. Casglwyd cant o gerddi i adlewyrchu gwahanol agweddau ar fywyd Abertawe a'r cwm.
Mae barddoniaeth nifer o brifeirdd yn y llyfr, cerddi dychan gan Gwyrosydd, rhai dwys gan Islwyn. Mae Rhydwen Williams, Aneirin Talfan Davies, J. Gwyn Griffiths, T.E.Nicholas, Waldo Williams, Menna Elfyn ac eraill ymhlith y beirdd sydd ar wahanol adegau wedi canu i agweddau ar fywyd Abertawe.
Er bod Abertawe wedi ei chysylltu'n bennaf ag un bardd Eingl Gymreig, mae'r llyfr hwn yn dangos y cyfoeth o ganu Cymraeg a fu yn Abertawe ers chwe chanrif a rhagor, ac yn brawf, os oes ei angen, fod yn Abertawe draddodiad hir o lenydda yn y Gymraeg.
Caiff y to newydd ei gynrychioli gan Neil Rosser, Huw Chiswell, Mari Stevens, Tudur Hallam a Mari George.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |