91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Cardi Bach
Logo Rhieni dros Addysg Gymraeg Ysgolion Abertawe'n gorlenwi
Chwefror 2009
Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg yn galw am ragor o ysgolion Cymraeg yn Abertawe er mwyn ateb y galw cynyddol am lefydd.

Mae Cyngor Abertawe'n rhagweld y bydd angen mwy na 500 o lefydd ychwanegol mewn ysgolion Cymraeg yn y dyfodol agos. Mae'r twf dros y deng mlynedd diwethaf wedi bod yn gyson, ac yn uwch na'r hyn a ragwelwyd gan y Sir.

Mae'r twf wedi ei atal yn unig gan y diffyg lle mewn ysgolion. Er bod y Sir yn rhagweld twf, nid oes cynlluniau boddhaol am ehangu yn y dyfodol.

Mae sôn am ychwanegu at y lle ym Mryn Iago, Pontybrenin, Tirdeunaw, Lon-Las a Llwynderw, a fydd gyda'i gilydd yn rhoi 408 yn ychwanegol o lefydd.

Ond nid oes unrhyw gynllun ar gyfer agor ysgolion Cymraeg mewn mannau lle mae eu hangen. Mae Rhag wedi bod yn pwyso am gael ysgol Gymraeg ychwanegol yn Nhreforys, ond mae'r Sir yn sôn am gynyddu maint Ysgol Lon-Las i 600 o ddisgyblion. Mae hyn ymhell y tu hwnt i faint delfrydol ysgolion cynradd. Yr angen yn Abertawe yw gweld ysgolion Cymraeg newydd yn cael eu sefydlu i wasanaethu gwahanol ardaloedd.

Mae arolwg sy'n cael ei gynnal gan y Sir i fesur y galw am addysg Gymraeg ar hyn o bryd yn dangos y byddai 38% o ddisgyblion y ddinas am gael lle mewn ysgolion Cymraeg. Y canran ar hyn o bryd yw tua 10%.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý