Ewch i ddarllen newyddion Menter Iaith Abertawe dros y mis diwethaf. Cafodd Siwan ei haddysg yn Ysgol Gymraeg Bryn-y-môr ac Ysgol Gyfun Gŵyr cyn graddio yn y Gymraeg ac Almaeneg yn Abertawe. Cyn dechrau gweithio gyda'r Fenter yn Abertawe enillodd ddiploma mewn cyfieithu.
Mae gan Siwan wreiddiau diddorol. Mae Bryn Terfel yn gefnder iddi ar ochr John ei thad, ac mae ei mam, Ruth, yn hanu o'r Swistir. Mae Siwan yn bedair ieithog.
Cafodd Siwan ei phenodi dair blynedd yn ôl yn swyddog bro gyda'r Feneter, o dan Gynllun Amcan Un Ewrop, gyda gofal am wardiau llai breintiedig y ddinas. Yn y cyfnod hwnnw bu'n dra gweithgar yn cychwyn gwaith arloesol gyda phlant a phobi ifanc, a dysgwyr.
Mae Siwan eisoes wedi cychwyn ar ei gwaith newydd, gan gymryd lle Myfanwy Jones, a gafodd ei phenodi'n swyddog strategaeth ieuenctid Bwrdd yr iaith Gymraeg.
Mewn cyfweliad arbennig â Wilia, meddai Siwan,"Rydw i ers Ionawr wedi cymryd drosodd gan Myfanwy Jones i fod yn Brif Swyddog ar y Fenter Iaith yn Abertawe. Dechreuodd Myfanwy tair blynedd yn ôl pan sefydlwyd y Fenter. Ers hynny, diolch i'w hymdrechion diflino hi a chefnogaeth barhaol pwyllgor Tŷ Tawe, mae'r nifer o staff wedi cynyddu i 6 Swyddog llawn amser ac un swyddog rhan amser.
"Dymuna'r Fenter a Chymdeithas TÅ· Tawe'r gorau iddi gyda'i swydd newydd fel Arweinydd Uned Ieuenctid Bwrdd yr laith.
"Roeddwn yn lwcus i ymuno â'r fenter yn gynnar iawn. Dechreuais trwy weithio yn y cynllun chwarae cyntaf a drefnwyd gan y Fenter nôl yn 2002, ac er roeddwn ond fod i weithio am 5 wythnos, symudais i weithio yn y swyddfa ac wedi gwrthod mynd ers hynny!
"Bydd nifer yn fy nabod fel Swydd og Bro'r Fenter, lle roeddwn yn gyfrifol am weithio yn ardaloedd difreintiedig Abertawe yn bennaf ond hefyd yn gwneud gwaith gyda dysgwyr a Meithrin.
"Rydw i'n edrych ymlaen at y cyfnod newydd hwn gyda'r Fenter a fydd yn siŵr o fod yn llawn profiadau newydd a chyffrous. Ac wrth gwrs rydw i'n hynod o hapus fod yn arwain tîm mor frwdfrydig a chydwybodol sydd o hyd yn rhoi o'i gorau i'r gwaith."