![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Diddanwyd y ciniawyr
gan rai o gyn-ddisgyblion yr ysgol:
Rhian Morgan, â monolog disglair
iawn fel Mrs Mort, yn tynnu coes
gwahanol rai'n gysylltiedig â'r
ysgol.
Yna, bu Steffan Rhodri Ellis yn
sôn am ei brofiadau yn Lôn-las a'r
modd y cyfrannodd yr ysgol at ei
Gymreictod, ac yntau'n gwerthfawrogi
hynny'n ddiweddarach.
Soniodd hefyd am rai o bobl enwog
byd y theatr y bu'n cydweithio â
nhw. Wedyn daeth Band Neil
Rosser i chwarae jazz Cymraeg.
Hefyd, cafwyd cyflwyniad hyfryd ar
gerdd gan Ann Rosser, Cadeirydd y Llywodraethwyr.
Yn y llun mae Mr Dyfrig Ellis, Pennaeth Lôn-las a rhai o'r disgyblion yn chwythu'r canhwyllau ar deisen a
gyflwynwyd yn
rhodd gan Ganolfan
y Mileniwm i'r ysgol
adeg lansiad llyfr
newydd Gareth
Lloyd James,
"Dirgelwch Gwersyll
Caerdydd".
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![0](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
|