91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Cardi Bach
Yr Ystafell Aros yn Abertawe
Tachwedd 2008
Daeth cynhyrchiad Arad Goch o ddrama Caryl Lewis, 'Yr Ystafell Aros' i Abertawe.

Dyma ail ddrama Caryl i Arad Goch. Profodd 'Yr Ysbryd', a lwyfannwyd yn 2006, yn boblogaidd iawn ymysg y gynulleidfa ifanc. A dyma'r nod ar gyfer y cynhyrchiad hwn hefyd.

Mae'r ddrama'n ymwneud â hunaniaeth pobl a'r rhwystrau mae rhai yn eu hwynebu wrth geisio darganfod pwy ydynt mewn gwirionedd. Dyma ddrama am dyfu i fyny, tor-priodas a salwch rhieni. Drama sy'n cwestiynu ein syniad o lwyddiant. Drama sy'n edrych ar ba mor wahanol all aelodau o'r un teulu fod. Dilynwn frawd sy'n serennu ar lwyfannau, chwaer sy'n aros i'w bywyd ddechrau'n ôl adref a mam sydd â chyfrinach fawr fydd yn gwyrdroi bywydau'r tri am byth.

Chwaraeir rhan Siôn, yr actor ifanc sy'n gadael gartref i ddilyn ei freuddwydion, gan Ioan Gwyn o Dal-y-bont, Ceredigion, a Mari Beard o Aberystwyth sy'n chwarae rhan y chwaer, Sara, sy'n aros adref i ofalu am ei mam. Mae'r ddau yn actorion ifanc, proffesiynol sy'n cydweithio'n arbennig o dda ac yn llwyddo i gynnal sylw'r gynulleidfa yn y ddrama drwyddi draw.

Bydd 'Yr Ystafell Aros', sy'n apelio at bobl ifanc 13+ ac oedolion, yn ymweld ag Ysgol Gyfun Bryn Tawe, Abertawe ar Dachwedd 3, 2008 am 7.30pm. Mae tocynnau ar gael o Fenter Iaith Abertawe, (01792) 460906.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý