91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Cardi Bach
Y criw yn ymweld â chorff sy'n dysgu Basgeg i oedolion, AEK Taith i Wlad y Basg
Ebrill 2007
*Hau zure Euskal Herrirako lehen bisita da? Am y tro cyntaf ers iddo ymddangos, mae Wilia yn defnyddio iaith wahanol i'r Gymraeg ar ei dudalen flaen!

A hynny oherwydd bod deg o bobl o Ganolfan Cymraeg i Oedolion De-orllewin Cymru (sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe) newydd ddychwelyd o ymweliad ag Euskadi - neu Wlad y Basg - er mwyn dod i wybod mwy am eu dulliau dysgu a threfnu ym maes dysgu Basgeg i oedolion.

Mae digon yn gyffredin rhwng Gwlad y Basg a Chymru: poblogaeth o tua 3 miliwn, y ddwy iaith yn hollol wahanol i iaith eu cymdogion mawr (Sbaeneg a Saesneg) ac oddeutu 20% o'r boblogaeth yn siarad Basgeg/Cymraeg. Ond o safbwynt buddsoddi yn yr iaith ac agweddau tuag ati, darganfuodd yr ymwelwyr o Gymru fod byd o wahaniaeth. .

Mae gan y corff sy'n gyfrifol am ddysgu Basgeg i oedolion (HABE) gyllid o 41 miliwn o Ewros y flwyddyn (tua £27,800,000);
Mae 109 o Euskaltegis (canolfannau iaith - rhai'n eithaf tebyg i DÅ· Tawe);
Mae dros 70 o bobl yn gweithio'n llawn amser i HABE yn unig heb sôn am y gweithwyr allan yn y maes;
Y norm o ran oriau dysgu yno yw 10 - 19 awr yr wythnos (mae'r cwrs mwyaf dwys yn Abertawe yn cynnig 12 awr yr wythnos a'r Wlpan fel arfer yn cynnig 4 awr yr wythnos).

Yn ogystal â hynny, roedd yr arbenigwyr yno yn dweud eu bod wedi sylwi ar ostyngiad bach yn nifer yr oedolion (ifanc) sy'n dysgu'r iaith gan fod cymaint yn llwyddo i'w meistroli yn blant yn yr ysgolion erbyn hyn. Rhoddir cryn bwyslais ar ddysgu'r Fasgeg i fewnfudwyr o ardaloedd eraill yn Sbaen ac o wledydd tramor (De America a Gogledd Affrica yn bennaf).

Roedd cyfle yn ystod yr ymweliad i gwrdd â phrif swyddogion HABE ynghyd â chynrychiolwyr o Adran Cynllunio Ieithyddol Llywodraeth Gwlad y Basg. Cafwyd blas ar ddysgu Basgeg ar-lein, aeth y criw i ymweld â chanolfan breswyl i ddysgu Basgeg i oedolion (a'r mwyafrif helaeth o ddysgwyr yno yn oedolion ifanc) ac, yn Bilbao, (gweler y llun uchod) ymwelwyd â chorff arall sy'n dysgu Basgeg i oedolion, AEK. Nhw sy'n gyfrifol am ras enwog y Korrika sy'n cael ei chynnal bob dwy flynedd i godi arian i'r achos ac - yn bwysicach efallai - i godi ymwybyddiaeth am yr iaith a threfnir gŵyl o weithgareddau cymdeithasol yn y Fasgeg yn ystod y ras. Roedd adeilad AEK yn fwrlwm o weithgareddau a rhannau ohono yn atgoffa rhai ohonon ni o lawr uchaf Tŷ Tawe!

Er bod ambell her o hyd yng Ngwlad y Basg - yn enwedig o ran sicrhau bod pobl yn defnyddio'r iaith yn y gymuned - roedd yn ysbrydoliaeth fod yn rhan o'r brwdfrydedd heintus sydd yno. Yr hyn sy'n gwbl amlwg yw nad oes modd ysgaru dysgu'r iaith i oedolion â'r polisïau ehangach i adfer a normaleiddio'r Fasgeg yn y gymdeithas yno.

*Cyfieithiad: Ai dyma'r tro cyntaf i chi ymweld â Gwlad y Basg?


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý