I ddechrau cafwyd Gwener y Grolsch bywiog iawn ar y 26ain o Chwefror gyda Eryr, Bob, Java a Plant Duw yn perfformio, aeth yr arian i gyd i godi arian ar gyfer alldaith elusennol rhai o ddisgyblion Gŵyr i Egwador. Diolch yn fawr iawn i Angharad Jenkins am drefnu'r cyfan, llongyfarchiadau mawr iddi hi. Bydd y gig nesaf ar y 25ain o Fawrth gyda MC Saizmundo a synDcut yn perfformio; rydym yn disgwyl ymlaen yn eiddgar am y gig, gan mai dyma'r tro cyntaf i Gwener y Grolsch fod yn noson Hip Hop Cymraeg. Dylai fod yn noswaith gwych a diddorol iawn, felly dewch yn eich cannoedd ieuenctid Abertawe. Cynhaliwyd gŵyl 'Cymreigiwch Abertawe' ar ddiwedd Chwefror, a fu'n llwyddiant mawr eto eleni. Bu'r Fenter yn gyfrifol, ar y cyd â'r cyngor, am drefnu digwyddiadau yn y cwadrant. Cawsom stondin yng nghanol y ganolfan siopa, a oedd yn gyfle gwych i farchnata gweithgareddau'r Fenter a chyfleoedd i ddysgu ac i ddefnyddio'r Gymraeg yn Abertawe, ymhlith pethau eraill. Trefnodd y Fenter berfformiad gan ysgol Mark Jermin a dawnsio gwerin gan Ysgol Gyfun Ystalyfera, a chafodd y ddau beth dderbyniad gwych gan y cyhoedd. Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a roddodd o'u hamser a'u hymdrech i gyfrannu at yr ŵyl unwaith eto eleni. O Fawrth y 14eg ymlaen bydd Swyddog newydd yn ymuno â thîm y Fenter! Bydd Eleri Griffiths, sydd ers yn ddiweddar wedi bod yn gweithio gyda'r Urdd yn Abertawe, yn gweithio gyda grwpiau cymunedol ar draws Morgannwg a Gwent i recordio a chofnodi hanes yr iaith Gymraeg yn ne Cymru, yn ogystal â gwneud ymchwil i dafodieithoedd a chyweiriau ieithyddol. Bydd Eleri yn gweithio am gyfnodau gydag 8 Menter Iaith, er mai swyddfeydd Abertawe fydd ei chartref am y ddwy flynedd nesaf. Bydd Eleri yn datblygu prosiectau gyda grwpiau lleol, mewn cydweithrediad â'r Mentrau laith i gofnodi etifeddiaeth y Gymraeg yn y cymunedau. Bydd yn cofnodi'r wybodaeth trwy ddefnyddio technegau amrywiol a chreadigol ee ffilmio, recordio ar dâp, tynnu lluniau digidol, yn ogystal â threfnu siaradwyr gwadd i drafod hanes ieithyddol y cymunedau unigol. Caiff y prosiectau amrywiol eu harddangos mewn llyfrgelloedd a chanolfannau lleol yn ystod y ddwy flynedd er paratoir arddangosfa a stondin i ddangos y gwaith i gyd yn Eisteddfod Genedlaethol Aber tawe 2006. Mae ei swydd wedi cael ei hariannu trwy gronfa Treftadaeth y Loteri. Mae'r gronfa yn galluogi cymunedau i ddathlu, gwarchod a dysgu mwy am ein treftadaeth gyfoethog. Mae Swyddog Cymraeg yn y Gymuned newydd y Fenter wedi dechrau ar ei swydd yn gweithio yn 9 ward Amcan 1 Abertawe. Dechreuodd Sioned Wyn Bowen, sydd yn wreiddiol o Rydaman, yn ei swydd newydd ar y 14eg o Chwefror. Nid yw Sioned Wyn yn wyneb newydd i'r Fenter, hyd yn ddiweddar, hi oedd Swyddog Busnes y Fenter, yn hyrwyddo gwasanaethau dwyieithog i fusnesau a mudiadau'r sir. Mae Sioned Wyn wedi cymryd lle Siwan, ac mi fydd yn parhau ac yn cryfhau'r cysylltiadau a'r partneriaethau sydd wedi cael eu sefydlu yn y 9 ward. Bydd yn canolbwyntio'n bennaf fodd bynnag, ar ardaloedd Blaenymaes, Portmead, San Tomos, a Glandwr dros y misoedd i ddod. "Dwi'n edrych ymlaen at barhau â'r gwaith sydd wedi cael ei wneud yn y 9 ward Amcan 1 yn barod ond datblygu prosiectau newydd a chefnogi'r Gymraeg yn yr ardaloedd nad sydd wedi cael cymaint â hynny o sylw eto. " Bwriad y prosiect yw hybu hunan- hyder a chynhwysedd cymunedau o fewn y 9 ward mewn ffyrdd agored a phositif. Mae swydd Sioned Wyn wedi hael ei hariannu gan nawdd Ewropeaidd.
|