![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![Noson a drefnwyd gan y fenter yn Nhy Tawe](/staticarchive/ff0855ce55d86efa18109879aeeb372392813ac0.jpg) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Swyddog Newydd Mawrth 2002 Mae Menter Iaith Abertawe wedi cyflogi swyddog newydd. Bydd Rhiannon Jenkins, Swyddog Bro y Fenter, yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn ardaloedd Amcan Un Abertawe. |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
"Casglu gwybodaeth sy'n rhaid ei wneud yn y lle cyntaf", medd Rhiannon, "felly rwy'n bwriadu creu holiadur ar gyfer disgyblion yr ysgolion cynradd Cymraeg a'r ysgolion uwchradd a'u rhieni er mwyn darganfod pa fath o weithgareddau cymdeithasol yr hoffen nhw ei gael yn yr ardal.
Sefydlu gweithgareddau cymdeithasol "Gobeithiaf, wedyn, sefydlu gweithgareddau cymdeithasol yn yr amryw ardaloedd. Gobeithio y bydd modd ehangu ar y ddarpariaeth dysgu Cymraeg yn yr ardaloedd hyn yn ogystal."
Gweithio gyda'r gymuned, yn hytrach nac ar ran y gymuned yw'r amcan ac mae croeso i bobol sydd â phrynhawn neu noswaith yn rhydd i roi cymorth i Rhiannon a Myfanwy unrhyw dro!
Bydd Rhiannon yn canolbwyntio ar ardaloedd Dwyrain Dulais, Dwyrain Gorseinon, Blaen y Maes, Portmead, Penlan, Plasmarl, Townhill, Bronymaen, Craigfelen a Chastell.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![0](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
|