Roedd cyrraedd rownd derfynol
Brydeinig yn dipyn o gamp i'r ysgol, gyda 80 o
ysgolion gorau Prydain, Canada ac Iwerddon
yn cystadlu. Roedd Bryn Tawe yn un o dri thîm
oedd yn cynrychioli Cymru. Roedd tîm yr ysgol
sef Alice Watts-Jones a Llinos McCann
wedi cynrychioli Bryn Tawe yn arbennig ar
ddiwrnod ffyrnig o ddadlau.
Mae rheolau llym y gystadleuaeth yn
golygu taw dim ond chwarter awr sydd ar gael
i baratoi araith o bum munud, roedd y dadleuon
wedi amrywio o'r rhyfel yn Irac i adnewyddu
egni. Gwnaeth Llinos ac Alice fynegi eu
barn yn gryf wrth drafod gyda siaradwyr ifanc
gorau'r wlad.
Yn ystod y dydd cystadlodd yr
ysgol yn erbyn Notting Hill, tîm a lwyddodd i
gyrraedd y rownd derfynol! Er i'r tîm beidio â
chyrraedd y rownd derfynol, maent yn haeddu
dipyn o glod am eu hymdrechion.
Roedd y penwythnos yn Rhydychen hefyd wedi
galluogi'r criw brwd o gefnogwyr i gael cipolwg ar ddinas hanesyddol Rhydychen
a gweld y colegau hyfryd. Roedd yr ymweliad a café coco ag awgrymwyd
gan y prifathro yn ddechreuad arbennig i'r penwythnos.
Diolch i bawb am eu presenoldeb yn enwedig y prifathro Mr David
Williams am ei gefnogaeth, Ms Siwan
Ellis, Miss Victoria Williams a Miss Hannah
Barrow (yr adran Saesneg) am eu
cymorth a Mr Chris Shaw am drefnu'r
daith a pharatoi'r tîm siarad cyhoeddus.
Mae'r disgyblion bellach yn frwd am
lwyddiant blwyddyn nesaf!
|