91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Aelodau newydd yr Orsedd
Rhestr o aelodau newydd a fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Abertawe
I'w hurddo fore Llun 7 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch 2006 ar gyfrif eu graddau mewn Cymraeg neu Gerddoriaeth:
Urdd Llenor (Gwisg Las)
  • Ann Alderton Ph.D., Suffolk
  • Craig Howard B.A., Abertawe
  • Rachel Anwen Jones B.A., Abertawe
  • Rhian Louise Morrissi B.A., Aberdâr
  • Rhian Parry Ph.D., Dolgellau
  • Rhian Powell B.A., Aberdâr
  • Eryl Wyn Rowlands Ph.D., Penarth
  • Daniel Rhys Tiplady B.A., Abertawe
  • Nesta Mary Tiplady B.A., Abertawe
  • Rhinedd Mair Williams B.A., Llanddarog

    Urdd Cerddor (Gwisg Las)
  • Edward-Rhys Bate Mus.Bac., Caerdydd
  • Nia Sian Davies B.A., Abertawe Meinir Richards Mus.Bac., Llanddarog

    ARHOLIADAU GORSEDD Y BEIRDD 2006
    Llwyddodd yr ymgeiswyr a ganlyn yn arholiadau Gorsedd y Beirdd eleni, ac urddir hwy yn aelodau gan yr Archdderwydd fore Llun, 7 Awst 2006 yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe a'r Cylch:
    Urdd Ieithydd (Gwisg Las)
  • Cecil Vernon Jones (Vernon o Garmel), Yr Hôb, Wrecsam
  • Siôn R Williams (Siôn o Ewrop), Llanrug, Caernarfon
    Urdd Iaith Ofydd (Gwisg Werdd)
  • Olwen Rhiannon Allender, Casnewydd
  • Beth Davies, Llandysul
  • Gillian Taylor Walker, Sarn, Pwllheli

    Enillwyr Llwyfan - Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau 2005
    Urdd Ofydd er Anrhydedd
  • Bethan Lloyd Dobson,Pantglas, Caernarfon - Enillydd Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn
  • Aeron Gwyn Jones,Caergeiliog - Enillydd Gwobr David Ellis-Y Rhuban Glas
  • Sue Massey, Penmaenmawr - Dysgwraig y Flwyddyn
  • Gregory Vearey-Roberts, Bow-Street,Ceredigion - Enillydd Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis
  • Richard Allen, Casllwchwr - Enillydd Gwobr David Ellis- Y Rhuban Glas Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau 2003
  • Utganwyr yr Orsedd: Dewi Griffiths, Bethel, Caernarfon a Paul Hughes, Y Felinheli

    Urdd Derwydd er Anrhydedd
  • Peter Finnemore, Pontiets,Llanelli - Enillydd Medal Aur Celfyddyd Gain Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau 2005
  • Richard Morris Jones,Caernarfon - Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau 2005
  • Manon Steffan Ros, Rhiwlas, Bangor - Enillydd y Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau 2005

    I'w derbyn i Urdd Derwydd er anrhydedd ar gyfrif gwasanaeth maith ac arbennig i'r Orsedd a'r Eisteddfod
  • Lallie Griffiths (Lal Carmel), Caernarfon
  • Eiri Jenkins (Eiri) Llanelli
  • Myrddin John (Myrddin Pennant), Rhydaman
  • Mair C. Jones (Rhiain Machreth), Dolgellau
  • Grês Pritchard (Llinos y Llynnau), Llanerchymedd
  • Enid Rhian Williams (Rhian o LÅ·n), Chwilog
  • Gwyn Parry Williams (Gwyn Treferthyr), Chwilog
  • Medwyn Williams (Medwyn y Garddwr), Llanfairpwll

    I'w hurddo fore Gwener 11 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch
    Urdd Ofydd er Anrhydedd - gyda theyrnged yr Orsedd iddynt:
  • Bu Phyllis Bell, Felindre, ar un amser yn gweithio yn y felin ddur a safai ar y llecyn sy'n safle i'r Eisteddfod eleni. Bellach hi yw ysgrifenyddes frwdfrydig apêl leol yr Eisteddfod honno. Mae hi ynghlwm â'r ysgol leol ymhob math o ffyrdd o fod yn ofalydd i fod yn Llywodraethwr. Bu'n arwain Eisteddfod Gadeiriol Felindre er 1970, bu'n gofalu am Aelwyd yr Urdd, yn ohebydd y Papur Bro, ysgrifennydd cyhoeddiadau ei heglwys, yn ddiacon ac athrawes yr Ysgol Sul. Bydd yn trefnu ymweliadau â chyngherddau a dramâu, ac yn gasglydd ardderchog ar gyfer elusennau. Dyma un o berlau diwylliedig bro Felindre.

  • Graddiodd Brenig Davies, Pontiets, mewn hanes a gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, ac wedi gweithio mewn meysydd cysylltiedig â Chymdeithaseg gwasanaethodd ym maes Iechyd Meddwl yn Ne-Orllewin Cymru am flynyddoedd lawer. Y mae yn weinidog mewn eglwysi yn Fforest Fach a Gorseinon. Dygodd werthoedd Cristnogol i'w waith bob dydd, gan ddileu rhagfarn ac anwybodaeth am afiechyd meddwl. Ymgyrchodd yn frwd o blaid gwell gwasanaeth i gleifion. Ond fe'i anrhydeddir hefyd am ei gadernid o blaid iaith a diwylliant a hanes ei Genedl.

  • Arlunydd dawnus yw Eifion Davies, Pontarddulais, yn ŵr diymhongar a didwyll. Y tu allan i'w swydd fel athro celf bu ar hyd y blynyddoedd yn wasanaethgar yn ei fro, gan gynnwys ei gyfraniad disglair ar Gyngor fel aelod a Chadeirydd. Y mae'n aelod blaenllaw ac ymroddgar yn eglwys y Gopa, yn gwasanaethu yn eglwysi'r cylch ac yng ngweinyddiad ei enwad. Y mae'n gefn i lu o weithgareddau cymdeithasol ei ardal gan gynnwys gwaith gyda'r ieuenctid. Mae'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn ganolbwynt i'w holl brysurdeb, a'i ddylanwad yn fendith i'w fro.

  • Cyfrannodd Terry Davies, Gorslas, yn helaeth iawn i'w filltir sgwâr ar hyd ei oes. Bu'n löwr ac yn undebwr blaenllaw am bron ddeng mlynedd ar hugain. Bu'n dal swyddi cyfrifol o fewn i'r Undeb, a'i ddylanwad yn allweddol wrth ofalu am fuddiannau cyn-löwyr a gweddwon. Ni ellid rhestru ei gyfraniadau i'w gymuned, ei ffyddlondeb i'w eglwys, sylfaenydd Cymdeithas y Dynion, a'r Gymdeithas Hanes, ar y Cyngor Sir, yn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd ac Ysgol Uwchradd, Trysorydd y papur bro a Chadeirydd Mentrau Iaith Myrddin. Dyma wron o gymwynaswr.

  • Y mae John Meurig Edwards, Aberhonddu, yn hanu o Bontrhydygroes, Ceredigion, ac yn raddedig yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe. Ym Mhowys fe fraenarodd y tir ar gyfer twf yr iaith yn ardal Aberhonddu, yn Brifathro cyntaf Ysgol Gynradd Gymraeg yno. O ganlyniad i lwyddiant aruthrol yr ysgol honno sefydlwyd Ysgol y Bannau. Ar wahân i'w ymroddiad diflino dros bob gweithgarwch Cymraeg yn ei ardal, bu'n gefn i'r diwylliant eisteddfodol. Enillodd yn gyson mewn cystadlaethau llenyddol yn y Brifwyl, a rhoes wasanaeth clodwiw fel beirniad llên ac adrodd mewn amryw o eisteddfodau lleol.

  • Y mae Grey Evans, Llanarmon, Pwllheli, yn adnabyddus yn genedlaethol, ond hefyd yn sylweddol iawn ei gyfraniad i ddiwylliant ei fro. Fe'i gwreiddiwyd mewn diwylliant yn Llan Ffestiniog. Wedi graddio gyda llwyddiant academaidd arbennig yn y Clasuron yng Ngholeg y Brifysgol Bangor, dewisodd yrfa fel actor, a chael ei dderbyn yn un o'r cyntaf i ymuno â'r cwmni o dan gyfarwyddyd Wilbert Lloyd Roberts. Y mae ganddo ddawn eithriadol i ddehongli a chyflwyno cymeriad, a gwnaeth gymwynas â'r Genedl drwy rannu ei grefft a'i brofiad helaeth fel cynhyrchydd a beirniad drama yn lleol a chenedlaethol.

  • Bu Sally Evans, Pontarddulais, drwy ei hoes yn deyrngar i fyd yr eisteddfod, yn lleol a chenedlaethol. Ers dros hanner canrif bu'n mynychu'r Brifwyl, gan wasanaethu fel stiward yn ystod yr wyth mlynedd ar hugain diwethaf. Bydd yn mynychu eisteddfodau lleol yn gyson, ac yn gefn i Eisteddfod Flynyddol Felindre, cartre'r Genedlaethol eleni. Chwyddodd gyllid llu o achosion da o fewn i'w bro drwy ei dawn a'i hymdrechion di-baid. Y mae yn arbennig yn ei ffyddlondeb i oedfa a chyfarfodydd cymdeithasau yn ei bro, yn garedig heb ei hail yn ymweld â chleifion, ac yn un o gymwynaswyr ei hardal.

  • Y mae Wayne Griffiths, Drefach, Llanelli, yn feddyg teulu ym Mhen-y-groes er y saithdegau, yn weithiwr egnïol dros y Gymraeg mewn llawer maes. Mae ar Bwyllgor Menter Cwm Gwendraeth er ei sefydlu,ac yn Gadeirydd er 1994. Bu'n Gadeirydd Cylchgrawn Golwg, a'i weledigaeth ef oedd WCW. Mae'n arlunydd a dylunydd dawnus, yn Gadeirydd Cwtsh Glöyn Cyf. sy'n gwerthu llyfrau ac adnoddau Cymraeg yng Nghwm Gwendraeth. Bu'n Llywydd Chwaraeon y Gymanwlad dros Gymru, ac mae'n Gadeirydd Dolen Iechyd. Dyn eang eithriadol ei ddiwylliant, ac yn flaenllaw a gweithgar iawn yn ei eglwys a'i enwad.

  • Yn ei hieuenctid yn Drefach Felindre bu Yvonne Griffiths Evans, British Columbia, yn amlwg fel cantores mewn eisteddfodau a chyngherddau. Ymfudodd hi a'i theulu i Canada yn 1976, ac o'r dechrau fe fu iaith a diwylliant Cymru yn rhan sylfaenol o'i bywyd. Fel un o aelodau amlycaf gwahanol Gymdeithasau Cymraeg Gogledd America, ac fel Llywydd, trefnodd ymweliadau gan gantorion a chorau amlycaf Cymru. Tra'n Llywydd y Gymanfa Ganu bu'n fedrus ei dylanwad yn sicrhau mwy o Gymraeg yn y Gymanfa. Cadwyd ei mamiaith hefyd yn iaith yr aelwyd, a'i dau blentyn yn rhugl eu Cymraeg.

  • Cafodd John Brian Humphreys, Brynaman, ei eni o fewn dwy filltir o faes yr Eisteddfod eleni, ac yn un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Gymraeg Lôn Las. Yn ystod ei yrfa bu mewn amryw o swyddi cyfrifol, a galw amdano i deithio i wahanol gyfarfodydd yng Nghymru a'r tu hwnt. Mae i gerddoriaeth le amlwg yn ei ddiwylliant, fel organydd, ac mewn gwahanol Gorau Cymysg. Ond y mae ei wasanaeth fel Cynghorydd a Chadeirydd ar Gyngor, ei gyfraniad hollol ganolog i'w Eglwys ym Mrynaman, ei ymroddiad i'r Henoed a'r Aelwyd ym Mrynaman, yn ogystal ag i'r Papur Bro, Y Llais, yn gyfraniad amhrisiadwy.

  • Un o blant bro Eisteddfod 2006 yw Beti Wyn James, Caerfyrddin,. Wedi graddio mewn Diwinyddiaeth ymgymerodd â gweinidogaethu yn y Barri lle bu'n helaeth iawn ei chyfraniad i fywyd Cymraeg y dre honno, ac yn ddolen bwysig rhwng yr Eglwys Gymraeg a'r Ysgolion Cymraeg. Gwasanaethodd ar fyrddau Llywodraethol yr Ysgolion, a bu'n Llywydd y Cymrodorion. Symudodd i Gaerfyrddin yn 2002, ac ymdaflodd ar unwaith i weithgareddau Cymraeg y dre honno. Un enghraifft o'i llu swyddogaethau yw Cadeiryddiaeth Pwyllgor Apêl Caerfyrddin ar gyfer Prifwyl yr Urdd 2007, gan arwain gydag asbri ac egni.

  • Y mae Helen Jones, Felindre,, yn byw yn ardal ei magwraeth a daeth yn werth ei chael yn y gymuned leol. Hi yw ysgrifennydd ac asgwrn cefn Eisteddfod Felindre. Mae hi'n ddiacones weithgar yn ei heglwys tra bu'n athrawes mewn gwahanol ysgolion yn y cyffiniau. Mae ar Bwyllgor Adloniant y neuadd, yn trefnu cyngherddau, siaradwyr a digwyddiadau cymdeithasol Cymraeg yno'n gyson. Hi yw Dirprwy Gadeirydd Ysgol Felindre, ac yn ohebydd y Llais. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf trefnodd ddosbarth nos i'r di-Gymraeg yn y cylch. Y mae'n arian byw o berson, yn cynnal Cymreictod a diwylliant ei bro.

  • Symudodd Tegwen Kettle, Stoke-on-Trent, o'i chynefin ym Morgannwg i Stoke wedi priodi, ond bu rhan o Gymru gyda hi yno yn ei chalon a'i gweithgarwch ar hyd ei halltudiaeth. Ddeugain mlynedd yn ôl hi oedd y prif anogwr i sefydlu Cymdeithas Gymraeg Stoke a Newcastle. Trwy ei hymdrechion diflino a'i brwdfrydedd a'i hewyllys gref mae'r Gymdeithas wedi ehangu a ffynnu ar hyd y cyfnod, gan gynnal amrywiaeth o weithgareddau Cymraeg i gadw'r cyswllt â Chymru yn fyw. Yn 2004 gwnaed hi yn Aelod Anrhydeddus o'r Gymdeithas, yr unig un i dderbyn yr anrhydedd.

  • Enillodd Robin McBryde, Y Tymbl Uchaf, le cynnes yng nghalon ei genedl drwy ei wrhydri ar faes rygbi. Cafodd ei addysg ym Mangor, ac wedi cyfnodau gyda Chlwb Ieuenctid Porthaethwy a Chlwb yr Wyddgrug gwelodd timoedd y De arbenigrwydd ei ddawn. Bu'n chwarae gyntaf gydag Abertawe, ac yna Llanelli. Datblygodd yn fachwr cryf a chyhyrog, ac enillodd 37 o Gapiau am chwarae dros Gymru yn ystod ei yrfa Ryngwladol, y cyfanswm mwyaf a enillodd Gogleddwr erioed am chwarae dros ei wlad. Bu hefyd yn aelod o garfan Y Llewod yn 2001. Dymunwn bob llwyddiant iddo fel hyfforddwr.

  • Hyfforddwyd Frances Helena Thomas, Ystradgynlais, fel nyrs, a chyrhaeddodd safleoedd o gyfrifoldeb arbennig yn ei galwedigaeth. Bu hefyd yn wasanaethgar iawn yn ei chymuned, yn gysylltiedig â Diogelu Cymru Wledig, ac fel Trysorydd ei Chronfa Apêl leol ar gyfer Prifwyl Llanelwedd. Ond cyfraniad unigryw ei bywyd yw ei gwaith gyda Chymdeithas Girl Guides Cymru. Mae ei gwaith gyda'r mudiad hwn yn gwbl arbennig, gan arwain gwersylloedd ym Mhrydain a thramor. Hi yw Archifydd Cymru, a chafodd ei hanrhydeddu â'r Laurel Award, a gwobr anrhydedd am wasanaeth deugain mlynedd.

  • Mae Iris Williams, Efrog Newydd, y gantores ddawnus o Donyrefail, yn berfformwraig ryngwladol adnabyddus iawn. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg Cerdd a Drama Caerdydd, a bellach fe'i gwnaed yn Gymrawd y Coleg hwnnw oherwydd llwyddiant ei gyrfa. Ymddangosodd mewn nifer helaeth o berfformiadau enwog, a hynny yng nghwmni cewri'r llwyfan mewn ugain o wledydd. Enillodd barch beirniaid cerdd America am ei dehongliadau clasurol. Cefnogodd amryw o achosion da yng Nghymru, a daw yn ôl yma mor aml â phosib i ganu mewn cyngherddau, yn aml gyda chorau meibion.

  • Bu T. Graham Williams, Rhiwfawr, Cwmtawe, am dros hanner canrif yn adrodd mewn llu o eisteddfodau yn y De a'r Gogledd. Datblygodd dros y blynyddoedd diwethaf yn fardd medrus, gan ennill dros hanner cant a phump o gadeiriau. Bu'n löwr ond fe aeth ymlaen â'i addysg gan raddio yn y Brifysgol Agored. Y mae ganddo ddawn arbennig i ddehongli a chyflwyno gwaith Dylan Thomas, a gelwir arno yn aml i berfformio'i waith. Gwnaeth hynny yn America rai blynyddoedd yn ôl. Sefydlodd grwˆp ysgrifennu creadigol yn ei fro, a chyhoeddir yn flynyddol waith y gweithdy hwn. Y mae'n awdur ac eisteddfodwr dawnus a diwyd.

    (ii) Urdd Derwydd er Anrhydedd
  • Ers ei benodi yn Brif Gwnstabl Gogledd Cymru mae Richard Brunstrom, Bae Colwyn, wedi gweddnewid diwylliant ieithyddol yr Heddlu o fewn i'w dalaith. Addawodd ddysgu Cymraeg pan gafodd ei benodi, a gwnaeth hynny i safon eithriadol o uchel mewn byr amser. Bu'r gamp honno ynddi ei hun yn esiampl ddisglair. Ond fe ddangosodd wedyn barch at ein hiaith drwy weithredu mewn llu o ffyrdd i fynnu safle anrhydeddus iddi o fewn i'w weinyddiaeth. Y mae ei ymroddiad iach a chyfrifol at y Gymraeg wedi treiddio drwy'r rhengoedd, ac wedi dylanwadu'n rymus ar agwedd ei weithlu.

  • Bu Eric Davies, Gwaun-cae-Gurwen, bellach yn Drysorydd yr Eisteddfod Genedlaethol am dros ddeng mlynedd, a bu ei arweiniad cadarn yn allweddol i ddod â'r Brifwyl yn ddiogel drwy gyfnod anodd. Cyn ei ethol i'r swydd honno bu'n gweithredu am flynyddoedd yn rhoi cyngor ariannol i adran gyllid yr Eisteddfod. Y mae'n frodor o Wauncaegurwen, yn gyfrifydd wrth ei alwedigaeth, ac yn llefarydd cyson ar ran C.B.I. Cymru. Bu'n gefnogol i fudiadau Cymraeg gan gynnwys Mentrau Iaith yn Sir Gaerfyrddin, a da cael gŵr eang ei ddiwylliant mewn swydd gyfrifol yng ngweinyddiad cyllidol yr Eisteddfod.

  • Y mae Hywel M. Davies, Maryland, UDA, yn un o sylfaenwyr Sefydliad Cenedlaethol Cymru-America. Fe'i ganed yng Nghasllwchwr a'i hyfforddi mewn peirianneg. Ym 1966 ymfudodd i'r Unol Daleithiau i weithio mewn cyfrifiadureg, a bu'n gweithio am dros chwarter canrif i Fanc y Byd. Cymerodd ran amlwg mewn gwahanol fudiadau Cymraeg a Chymreig yno, gan gynnwys Cymdeithas Dewi Sant y Brifddinas a'r Gymanfa Ganu Gymreig. Y mae'n frwdfrydig iawn dros gynnal cysylltiadau cryfach rhwng Cymru a Gogledd America, a'i aelwyd bob amser ar agor i ymwelwyr o Gymru.

  • Dilynodd Marian Delyth, Blaenplwyf, yrfa ddisglair fel dylunydd graffeg a ffotograffydd, ac fe saif yn uchel ei pharch ymhlith ei chyd-artistiaid. Ond y tu hwnt i ragoriaethau ei gyrfa, rhoes wasanaeth i nifer o gyrff cyhoeddus yn y Celfyddydau. Bu'n aelod ar Bwyllgor Celf Cyngor Celfyddydau Cymru ac yn Gadeirydd Panel Celf y Brifwyl. Bu'n allweddol yn sefydlu i'r celfyddydau gweledol le anrhydeddus o fewn i ddiwylliant Cymru, ac ymestyn eu bri mewn gwledydd tramor. Mae ganddi argyhoeddiadau cadarn, ac mae ei chyfraniad tawel i'n hiaith a'n diwylliant yn haeddu ei anrhydeddu.

  • Ganed Falmai Griffiths, Caerdydd, yn Llandysul, a'i magu ym merw eisteddfodol y cylch. Parhaodd yr elfen honno yn gryf ynddi drwy ei gyrfa fel athrawes mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn ardal Caerdydd, a bu'n arbennig o lwyddiannus yn hyfforddi adroddwyr ac fel beirniad adrodd. Bu yn un o chwaraewyr hoci amlycaf Cymru, yn aelod yn nhîm hoci enwog Penarth. Y mae'n fwy egnïol fyth yn ei brwdfrydedd o blaid y Gymraeg, ymhlith eglwysi, mewn ysgolion a chyda dysgwyr, gan arloesi mewn llu o weithgareddau. Y mae ei chyflawniadau'n ddirifedi, a'i hysbrydoliaeth yn heintus.

  • Y mae Alwyn Humphreys, Caerdydd, yn gyfuniad o gerddor dawnus a darlledwr proffesiynol o fedrus. Fe'i maged ym Modffordd yn Ynys Môn. Daeth ei ddawn gerddorol yn amlwg yn gynnar iawn, a bu'n aelod yng Ngherddorfa Ieuenctid Cymru. Cafodd ei addysgu ym Mhrifysgol Hull lle graddiodd gydag anrhydedd. Cyfansoddodd a threfnodd gerddoriaeth ar gyfer llu o gorau, a bu'n arwain Côr Orffiws Treforys drwy gyfnod arbennig o lwyddiannus am chwarter canrif. Yn ystod bron yr un cyfnod bu'n cyflwyno'r rhaglenni llwyfan y Genedlaethol a'r Urdd yn ei ddull graenus a deallus.

  • Cymwynaswr unigryw yw Hywel Wyn Jeffreys, Caerdydd,. Hanesydd o Brifysgol Bangor ydyw, ond mae ei wreiddiau yn ddwfn yn niwylliant Cwm Aman. Bu'n Ddirprwy Brifathro Ysgol Rhydfelen, a'i briod, Gwyneth, yno'n bennaeth Adran Ffrangeg. Er 1993 bu'r ddau, yn "neuadd" eu cartref yng Nghaerdydd, yn cynnal cyngherddau o ganu gan gantorion enwocaf Cymru, a darlleniadau cerddi twym o ffwrn beirdd cyfoes y genedl, er mwyn amrywiol achosion elusennol. Y llynedd yn unig casglwyd £42,000. Trwy eu hymdrechion di-ildio, cadwodd Hywel a'i briod hen draddodiad nawdd y genedl yn fyw.

  • Mae David Gwyn John, Treforys, yn hanesydd helaeth ei wybodaeth. Dechreuodd ei lafur dros y Gymraeg fel athro ail-iaith mewn ardal ddi-freintiedig yn Abertawe, a chael ffrwyth tu hwnt i'r disgwyl i'w waith. Yn y tair ysgol lle bu'n bennaeth cynyddu wnaeth llwyddiant y Gymraeg, heb sôn am ei weithgarwch tu allan megis yn Arweinydd yr Aelwyd. Bu ei gyfraniad yn anhepgor mewn cefnogaeth leol i Eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol ar hyd y blynyddoedd. Ef eleni yw Cadeirydd Apêl Treforys at Brifwyl 2006, sydd wedi rhagori ymhell dros ei tharged. Dyma symbylydd arbennig o ymroddgar.

  • Dechreuodd Hywel Jones, Aberystwyth, ei yrfa yn Athro Addysg Gorfforol yn Ysgol Gyfun Penweddig cyn ei benodi'n Bennaeth yng Nglan-llyn. Ar hyn o bryd ef yw Arweinydd Mudiad Ysgolion Meithrin Cymru. Yn y swydd hon fe lwyddodd i droi'r Mudiad yn sefydliad proffesiynol a swyddogol. Sicrhaodd Ganolfan Integredig newydd yn Aberystwyth a chytundeb gan Y Cynulliad i sefydlu Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol. Drwy'r canolfannau Taleithiol a sefydlir yn fuan parheir y cynnydd sylweddol y mae'r gŵr egnïol a diwylliedig hwn wedi ei arwain mewn maes creiddiol i ddyfodol ein hiaith.

  • Mae Mary Lloyd Jones, Aberystwyth, ers tro yn un o enwogion byd celf yng Nghymru. Yn hanu o Bontarfynach, fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Celf Caerdydd. Y mae'n trafod ei milltir sgwâr o ran ei thirwedd a'i diwylliant, ond mewn arddull sy'n drawiadol o argraffiadol a byrlymus o ran lliw. A thrwy wreiddio'i gwaith yn ei chynefin fe welwyd fod ganddo apêl eang a rhygwladol. Ar wahân i orielau enwocaf Cymru, cynhaliodd arddangosfeydd "solo" yn Llundain, Cologne, Efrog Newydd ac Oslo a gwelwyd ei gwaith yn orielau enwog gwledydd eraill megis yn yr Eidal a Sbaen. Dyma yn wir Lysgennad Celfyddyd Cymru.

  • Gwyneth Lewis, Caerdydd, yw'r gyntaf i'w harddel gan ei chenedl yn Fardd Cenedlaethol Cymru. Fe'i ganed yng Nghaerdydd, ac astudiodd Saesneg yng Nghaergrawnt cyn mynd i astudio yn yr Unol Daleithiau a gweithio yno fel newyddiadurwraig. Aeth wedyn i Rydychen i wneud ymchwil ar waith Iolo Morgannwg. Cyhoeddodd gyfrolau sylweddol eu safon yn Saesneg, ac fe'i gwahoddwyd yn aelod o'r Poetry Book Society. Mae ei chyfrolau Cymraeg yr un mor ddisglair, a Llofrudd Iaith yn Llyfr y Flwyddyn 2000. Y mae Gorsedd y Beirdd yn falch o'i chael yn aelod, ac ysbryd Iolo'n ategu'r croeso!

  • Rhoddodd Beth Leyshon, Bynea, Llanelli, wasanaeth cofiadwy iawn i'r Eisteddfod Genedlaethol ar hyd y blynyddoedd, a hi oedd Ysgrifennydd diwyd Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, 2000. Bu'n Brifathrawes ysgolion cynradd yn ei bro, ond rhoes gyfraniad llawer lletach na hynny i'w hardal. Bu hi ei hun yn gantores werin ddawnus a berfformiodd ar lwyfannau ledled Cymru, ac yn Arweinydd Côr Merched Trimsaran. Yn ogystal â defnyddio'i doniau cerddorol, cyflawnodd waith clodwiw yn gymdeithasol, yn enwedig gyda phlant dan anfantais. Y mae'n wir yn gymwynaswraig bro.

  • Y mae Rhoswen Mary Llewelyn, Cwmfelin Mynach, yn cael ei chymeradwyo gan lu o'i chydardalwyr sy'n ei pharchu a'i hedmygu am ymgyflwyno mor llwyr i fywyd ei bro. Fel Pennaeth Ysgol a Threfnydd ysgol feithrin a thiwtor dosbarthiadau dysgwyr ac athrawes Ysgol Sul, dangosodd ddyfnder ei hymroddiad. Hi fu'n bennaf cyfrifol am sefydlu cangen Merched y Wawr Bro Gronw. Arloesodd gyda'r Papur Bro, Y Cardi Bach, gan fod yn Llywydd a Golygydd a Chysodydd ar wahanol gyfnodau dros chwarter canrif. Amlyga ddisgleirdeb yn ei doniau fel llenor, gan ennill yn Nhyddewi 2002 ar y Portreadau.

  • Gwelodd Cymru ddawn a gallu Gareth Miles, Pontypridd, yn ei gymeriad yn ogystal ag yn ei waith. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith, yn Ysgrifennydd, yn Olygydd Tafod y Ddraig ac yn Gadeirydd ar wahanol adegau. Bu'n Gadeirydd cangen Gymreig Ysgrifenwyr Gwledydd Prydain am ran helaeth o'r chwarter canrif diwethaf. Cynhyrchodd nifer helaeth o gyfieithiadau ac addasiadau amryw gyfrolau a dramâu llawer gwlad ac iaith. Mae'n awdur toreithiog ei gyfrolau a'i erthyglau, ac yn sgriptiwr a dramodydd y bydd Cymru a'r Gymraeg am byth yn drwm iawn yn eu dyled iddo.

  • Dilynodd Prys Morgan, Abertawe, ôl traed ei dad, T.J. Morgan, yn nisgleirdeb ei ysgolheictod. Y mae'n llenor, yn hanesydd a darlledwr. Gwasanaethodd fel golygydd amryw o gyfnodolion a chyfrolau ysgolheigaidd, yn aelod a chadeirydd cyrff cenedlaethol megis Pwyllgor Llenyddol Cyngor y Celfyddydau a Phwyllgor Adeiladau Cymru. Eleni fe'i hurddwyd yn Llywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Er 2002 y mae'n Athro Emeritws Prifysgol Cymru. Y mae'n gyfathrebwr medrus, a'i gyflawniadau dirifedi yn gyfraniadau cyfoethog i wyddor a llên ein cenedl.

  • Ganed Osi Rhys Osmond, Llansteffan, yn Wattville, Gwent a graddiodd o Goleg Celf Casnewydd a Chaerdydd. Mae'n wlatgarwr brwd, a dysgodd Gymraeg yn nodedig o dda. Wedi ymsefydlu yn Llansteffan y mae'n ennyn parch gan bawb am ei weithgarwch dros ei gymuned leol. Bu'n gefnogol i orielau ym Mhenfro a Myrddin, a rhoes gyngor a chefnogaeth fuddiol iawn i'r Brifwyl mewn cyswllt â Chelfyddyd Gweledol. Yn safon ei waith, ac fel athro a darlithydd, ysbrydolodd genedlaethau o artistiaid ifanc. Mae'n genhadwr effeithiol dros Gymru a Chymreictod ymhlith y di-Gymraeg, ac ar y llwyfan rhyngwladol.

  • Cafodd Bobi Morus Roberts, Aberhonddu, ei fagu mewn ardal gyfoethog ei diwylliant ym Mryn-Rhyd-yr-Arian. Dysgodd ganu gan ei dad, a datblygodd yn ddatgeinydd celfydd gan ennill amryw weithiau yn yr Wyl Gerdd Dant a'r Genedlaethol. Gosodai ar gyfer datgeiniaid, a darlithiai a hyfforddai yn y cylch. Wedi i'w waith orfodi iddo symud i Loegr ac yna i Aberhonddu ni ollyngodd ei frwdfrydedd dros hybu corau a chymdeithasau ac eisteddfodau. Cyfansoddai ganeuon, a pherfformiai a chyflwynai raglenni ar radio a theledu dros wahanol gyfnodau, ac anian yr awdur a'r cyfansoddwr yn dal yn fyw ynddo.

  • Gogleddwr o Edern yw Guto T. Roberts, Pontyclun, ac ar hyd ei yrfa bu'n ddarlithydd Ffiseg ymMhrifysgol Morgannwg. Bu ei ddyfeisgarwch gwyddonol yn amlwg yn ei ymchwil a'i waith datblygol, yn arbennig mewn cysylltiad â diwydiant. Yn ychwanegol at ei gyfraniadau galluog yn ei faes dangosodd ehangder ei ddiwylliant yn ei wasanaeth i'r Urdd, yn lleol a chenedlaethol. Yna wedyn rhoes arweiniad arloesol gyda Menter Taf Elái. Ac ers blynyddoedd, gyda'r Eisteddfod Genedlaethol, bu'n gyfrifol am drefnu ei gweithgareddau Gwyddonol. Dyma un o gymwynaswyr y Brifwyl.

  • Athro arbennig iawn yw Owain Roberts, Amlwch,. Fe'i ganed ym Mhenbedw. Er dechrau'r saithdegau bu yn byw a dysgu ym Môn. Ond ei arbenigedd yw archaeoleg y môr, ac fe'i cydnabyddir yn awdurdod byd-eang yn ei faes. Fe'i hanrhydeddwyd gan Gymdeithasau morwrol yn cynnwys Sefydliad Brenhinol Penseiri Morwriaeth. Cafodd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Caerdydd, a'i gydnabod yn Ddarlithydd Mygedol gan y Brifysgol ym Mangor. Y mae'n darlithio ac hyfforddi'n gyson, yn cynorthwyo gyda golygu cyfnodolion, a'i gyhoeddiadau a'i erthyglau yn ddirifedi. Llongwr Cymraeg gwir ddiwylliedig.

  • Bu Betty Williams, Talysarn, Dyffryn Nantlle, yn gefnogol i eisteddfodau lleol a chenedlaethol o'i phlentyndod, a deil i fyw yn Nhalysarn, bro ei magwraeth. Y mae'n ddiacon yn ei heglwys ac yn deyrngar i draddodiadau gorau diwylliant ei gwlad. Graddiodd ym Mhrifysgol Cymru, ac y mae yn Is-Lywydd a Chymrawd Prifysgol Cymru Bangor. Gwasanaethodd ar gynghorau lleol a'r Cyngor Sir cyn ei hethol yn Aelod Seneddol dros Gonwy. Dangosodd ddawn a deallusrwydd yn ei dyletswyddau ar lu o wahanol banelau a phwyllgorau, ac y mae ei harddull a'i hiaith naturiol yn rhoi graen ar ei chyflawniadau cyhoeddus.

  • Cafodd Owen Arthur Williams, Llanfairpwll, yrfa fel athro hynod drwyadl a dawnus mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn Lloegr a Chymru. Yn fab i'r enwog Edward Williams, Llangefni, nid rhyfedd iddo gael ei wreiddio mewn diwylliant. Y mae'n Is-Lywydd Eisteddfod Môn. Bu'n adroddwr eithriadol lwyddiannus yn gynnar iawn, ond troes ei ddiddordeb i gyfeiriad y ddrama, gyda Chlwb Cymry Llundain, ac yna ym Môn. O ddechrau'r saithdegau bu'n actio bron yn flynyddol ym mherfformiadau Theatr fach Llangefni. Y mae'n awdur cyfrolau, ac ef yw'r awdurdod ar hanes y ddrama ym Môn.


  • sunny Abertawe
    isaf 10°CÌýÌýuchaf 15°C

    Rhagolygon 5 diwrnod


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý