|
Bydd 91Èȱ¬ Cymru yn darlledu o'r Eisteddfod bob dydd ar 91Èȱ¬ Radio Cymru, S4C ac ar-lein.
Er bod pafiliwn newydd yn Abertawe wynebau cyfarwydd fydd yn sicrhau y bydd gwasaneth y 91Èȱ¬ o'r maes yn well nag erioed.
Wedi'r cyfan fyddai hi ddim yn 'steddfod heb Hywel Gwynfryn ac eleni mae o'n dathlu deugain mlynedd ers iddo weithio yn ei eisteddfod gyntaf.
i ddarllen am ddeugain mlynedd Hywel.
Y babell Lên Mae newyddion arbennig o dda i holl ddilynwyr y Babell Lên eleni - am y tro cyntaf erioed bydd modd gwylio holl ddigwyddiadau ar S4C trwy wasgu'r botwm coch. Bydd camerau 91Èȱ¬ Cymru yno'n darlledu'n fyw o'r babell o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ac fe fydd yna hefyd we ddarlledu byw o'r llwyfan.
Yn y Babell Lên hefyd y cynhelir gornest derfynol Talwrn y Beirdd Radio Cymru ddydd Sadwrn ac fe'i darlledir nos Sul (Awst 6).
Jonsi a Grav Jonsi sy'n cadw cwmni i'r rhan fwyaf o'r genedl ben bore ond, yn ardal y de-orllewin, Grav 'West is Best' sy'n darlledu am 8.30am. Bydd cyfle i eisteddfotwyr Abertawe gael blas ar raglen foreol Ray Gravell wrth iddyn nhw wrando ar Radio Cymru yn yr ardal.
Bydd y ddwy raglen yn cael eu darlledu'n fyw o babell 91Èȱ¬ Cymru ar y maes (Llun-Gwener, Awst 7-11).
Ar y soffa Eleri Siôn fydd yn cadw'r soffa'n gynnes yn y stiwdio wrth i westeion arbennig ymuno â hi i drafod y cystadlu a digwyddiadau'r brifwyl.
Caiff person ifanc gwahanol y cyfle i ymuno â hi bob diwrnod i gyflwyno adroddiad o'u heisteddfod hwy.
Bydd Magi Dodd a'i sodlau uchel yn crwydro'r maes a Nia Lloyd Jones yn fyw o gefn llwyfan.
Tocyn wythnos Beti George fydd yn edrych yn pwyso a mesur digwyddiadau'r diwrnod yn Tocyn Wythnos (Sadwrn-Gwener, Awst 5-11) a bydd cyfle i glywed barn ambell i feirniad answyddogol yn ogystol â sgwrs ag enillwyr y prif seremoniau a danteithion o'r Babell Lên.
Ar S4C Yn cadw cwmni i wylwyr S4C fydd Huw Llywelyn Davies, Alwyn Humphreys a Sara Evans a fydd yn dilyn y cystadlu ar y llwyfan gan ddarlledu'r holl berfformiadau a'r beirniadaethau'n fyw tra bydd Shân Cothi a Gareth Wyn yn profi'r cyffro tu cefn y llen.
Hel clecs a newyddion y dydd o gylch y maes fydd Tara Bethan a Mari Lovegreen. Gyda'r nos bydd cyfle i fwynhau rhaglen o uchafbwyntiau wrth i Rhun ap Iorwerth fwrw golwg yn ôl ar ddigwyddiadau'r dydd.
Oedfa'r Bore Ar y Sul agoriadol yr Eisteddfod bydd Cymry o bob cwr o'r wlad yn dod ynghyd am Oedfa'r Bore.
Thema'r oedfa fydd Cenedl, Cymuned a Chyfiawnder a cheir myfyrdod gan yr Archesgob Rowan Williams a chyflwyniadau gan bobl ifanc Ysgolion Sul yr ardal a Chôr yr Eisteddfod dan arweiniad Alun Tregelles Williams.
Ef hefyd fydd yn arwain Cymanfa Ganu'r Eisteddfod gyda'r hwyr.
Bob bore ar y Post Cyntaf bydd Gwilym Owen yn cymryd ei olwg arbennig ei hun o hynt a helynt yr Å´yl a bydd y sgyrsiau hynny ar gael i'w darllen wedyn ar y wefan hon.
Os na fedrwch chi gyrraedd safle'r eisteddfod eleni peidwich â phryderu - chollwch chi ddim gyda 91Èȱ¬ Cymru!
91Èȱ¬ Radio Cymru bbc.co.uk/radiocymru
Eisteddfod Genedlaethol, Sadwrn, Awst 5, 2pm; Sul, Awst 6, 3pm;
Llun-Gwener, Awst 7-11,11am a 2pm
Tocyn Wythnos, Sadwrn, Awst 5, 6.30pm; Llun-Gwener, Awst 7-11, 6.15pm
Oedfa'r Genedlaethol, Sul, Awst 6, 11.30am
Y Talwrn, Sul, Awst 6, 5.15pm
Cymanfa'r Eisteddfod, Sul, Awst 6, 8pm
Grav/Jonsi, Llun-Gwener, Awst 7-11, 8.30am
91Èȱ¬ Cymru ar S4C
Eisteddfod Genedlaethol 2006
Sadwrn, Awst 5, 4pm a 8.30pm; Sul, Awst 6, 12pm, 4.15pm a 7.15pm
Llun, Awst 7, 3pm a 8.50pm; Mawrth, Awst 8, 2.45pm a 8.50pm
Mercher, Awst 9, 2.45pm a 6.45pm; Iau, Awst 10, 2.45pm a 8.25pm
Gwener, Awst 11, 2.30pm, 6.30pm a 9.30pm
Oedfa'r Bore:Eisteddfod Genedlaethol 2006, Sul, Awst 6, 10.30am
Cymanfa Ganu:Eisteddfod Genedlaethol 2006, Sul, Awst 6, 8pm
Gwell nag erioed ar y we
Steddfodau da a drwg
Deugain mlynedd Hywel
|
|