|
|
|
Hynodion Abertawe Wyddech chi hyn? |
|
|
|
Dywedodd y bardd o Sais, W S Landor, fod Bae Abertawe yn dlysach na Bae Napoli.
Bu'n ddadl mai perthyn i Abertawe y mae'r gân Clychau Aberdyfi ac mai'r teitl cywir yw Clychau Abertawe!
Tra bo tarddiad yr enw Cymraeg ar y dref yn gwbl amlwg gydag afon Tawe yn rhedeg i'r môr gerllaw nid felly yr enw Saesneg, Swansea. Er galw'r clwb pêl-droed yn Swans ac yn Elyrch does a wnelo'r adar hynny ddim â'r enw. Arweinydd Llychlynnaidd oedd Sweyne a ymsefydlodd yn yr ardal cyn dyfodiad y Normaniaid gan alw ei drigfan Sweyn Ea - Ynys Sweyne
Yr enw yn siartr y Brenin Ioan oedd Swinnzey.
Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg dyma ganolfan brosesu copr fwyaf y byd.
Codwyd tai i'r gweithwyr copr fyw ynddyn nhw gan ddiwydiannwr o'r enw Robert Morris - dyma Dreforys.
Teulu o Gernyw oedd y Vivians, perchenogion y gwaith copr mwyaf yn y byd yn ei ddydd.
Wedi i weithgarwch cynhyrchu copr symud i'r Unol Daleithiau canolbwyntiodd Abertawe ar drin tun ac erbyn 1913 yr oedd 106 o felinau tunplad yn yr ardal. Erbyn y Pumdegau dim ond un oedd ar ôl.
Pan nad oedd Caerdydd ond megis tref bysgota ddechrau'r ddeunawfed ganrif yr oedd Abertawe y porthladd allforio glo mwyaf yn y byd.
Yr enw barddol a gysylltir ag Abertawe yw Dylan Thomas - ond bomio'r dref hon adeg yr Ail Ryfel Byd oedd yr ysbrydoliaeth hefyd y tu ôl i gerdd Waldo Williams, Y Tangnefeddwyr.
Dylan Thomas ddisgrifiodd y ddinas - y dref yn ei adeg ef - fel "Ugly, lovely town".
Sefydlwyd Prifysgol Abertawe yn 1921 gyda phedair mil o fyfyrwyr ar y cychwyn.
Bara lawr yw'r bwyd a gysylltir fwyaf ag Abertawe - gwymon oddi ar draethau Penrhyn Gŵyr r sy'n cael ei fwyta gyda bara cheirch neu gig moch ac yn llawn protin.
Ym mynwent Ystumllwyniarth y claddwyd Thomas Bowdler a fu farw yn 1825. Daeth ef yn enwog am chwynu gweithiau Shakespeare o unrhyw gyfeiriadau a ystyriai yn ddi-chwaeth. Maes o law daeth y gair bowdlerize yn gyfystyr a sensro yn Saesneg.
I Abertawe y dihangodd y bardd Saesneg Richard Savage yn 1739 rhag y rhai yr oedd mewn dyled iddyn nhw. Ymhen blwyddyn yr oedd ar ffo eto, i Fryste.
Fel Ann of Swansea yr oedd Sarah Siddons yn cael ei hadnabod - awdur nifer o nofelau a drama, Zaffine, yr ymddangosodd yr enwog Edmund Kean ynddi yn Abertawe yn 1810.
Er mai yn Seattle y bu farw Vernon Watkins oddi ar greigiau Abertawe y gwasgarwyd ei lwch Mae llinellau i'w gofio ar fur gogleddol Eglwys Pennard: Death cannot steal the light/ Which love has kindled/ Nor the years change it.
Ym Mhenrhyn Gŵyr y darganfuwyd yr esgyrn enwocaf ym Mhrydain. Yn 1823 darganfuwyd ysgerbwd heb ben a alwyd gan yr archaeolegwyr yn Ddynes Goch Paviland oherwydd i goch y graig liwio'r esgyrn. Ar y cychwyn, credwyd mai merch o gyfnod y Rhufeiniaid oedd hi ond erbyn canol yr ugeinfed ganrif profwyd mai dyn oedd y ferch a'r esgyrn yn dyddio o Hen Oes y Cerrig, 16,000 o flynyddoedd cyn geni Crist. Dyfalwyd hefyd i'r esgyrn gael eu lliwio'n goch o bwrpas i sicrhau anfarwoldeb.
Yn Chwefror 1941 pan fomiodd 250 o awyrennau Abertawe a lladd 400 o bobl gellid gweld y fflamau o Sir Benfro.
Mae cyfeiriad at gopr yn cael ei gludo i Abertawe o fwynfeydd yn yn The Voyage of the Beagle gan CharlesDarwin.
Y mae canolfan Eifftioleg yn Abertawe.
|
|
|
|
|
|