|
1Ìý
2Ìý
3Ìý
4Ìý
5Ìý
6Ìý
7Ìý
8Ìý
9Ìý
10Ìý
11Ìý
12Ìý
13Ìý
14Ìý
15Ìý
16Ìý
17Ìý
18Ìý
19Ìý
|
|
Bydd oddeutu 140 o blant o 25 o ysgolion cynradd cylch Abertawe yn cymryd rhan yn y pasiant Halen yn y Gwaed ar lwyfan yr Eisteddfod nos Sadwrn, Awst 5. llwyfennir y cynhyrchiad mewn cydweithrediad a'r cwmni theatr mewn addysg, na n'Og gyda Geinor Styles, cyfarwyddwr artistig y cwmni yn cyfarwyddo. Bywyd morwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw'r cefndir gyda'r prif gymeriad, Morris, yn ysu am fod yn gapten llong ond yn dod yn rhan o galedi a thristwch bywyd ar longau'r cyfnod. Cyhoeddwn yma gyfres o luniau o'r plant yn ymarfer ar gyfer y noson fawr. |
|
|
|