|
|
|
Cymry tramor - dim seremoni 'Colli'r unig gyfle i anrhydeddu Cymry tramor gerbron y genedl' |
|
|
|
Eleni yw'r flwyddyn gyntaf ers bron i drigain mlynedd na fydd seremoni i groesawu 'Cymry ar wasgar' yn Eisteddfod Genedlaethol.
Mewn cyfarfod yn gynharach eleni penderfynodd Cyngor yr Eisteddfod i'r amser ddod i ddileu'r seremoni hon a gynhaliwyd gyntaf ym Mhenybont-ar-Ogwr yn 1948.
Ers rhai blynyddoedd bellach bu'r seremoni yn un lled ddadleuol a thair blynedd yn ôl daeth Dewi Jones, Llangwm, a chynnig gerbron Gyngor yr Eisteddfod yn galw am ei dileu.
Dadleuodd ei bod yn henffasiwn ac yn amherthnasol i Gymru heddiw.
Ymateb y Cyngor oedd rhoi tair blynedd o ras i'r seremoni yn y gobaith y gallai'r Eisteddfod ac Undeb Cymru a'r Byd - yr hen Undeb y Cymry ar Wasgar - greu seremoni fwy cyfoes.
Ond er peth arbrofi ni pherswadiwyd y Cyngor i bethau newid digon i wneud y seremoni yn un gwerth ei chadw.
Dywedodd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, fod y ffaith fod nifer y gynulleidfa yn gostwng o flwyddyn i flwyddyn yn arwydd o ddiffyg.
Mae o o'r farn hefyd nad yw ymweliadau o dramor yn bethau mor anghyffredin ac arwyddocaol erbyn hyn ag oeddynt ym mlynyddoedd cynnar y seremoni.
Ond er na fu fawr o wrthwynebiad yng Nghymru i ddileu'r seremoni mae llawer o Gymry a chyfeillion i Gymru o dramor yn teimlo iddynt gael cam ac i'r Eisteddfod eu trin yn sâl.
Ymhlith y rheini mae John Pritchard, Cymro glan gloyw sy'n byw ar aelwyd Gymraeg yn Vancouver Canada ers dros bum mlynedd ar hugain ac 'arweinydd' y Cymry tramor yn Eisteddfod Eryri y llynedd - yr arweinydd olaf fel mae'n digwydd!
Ysgrifennodd ef at benaethiaid yr Eisteddfod yn mynegi ei siom:
"Ofnaf," meddai, "nad oes gan aelodau Cyngor yr Eisteddfod amgyffred pa mor angerddol bwysig yw'r seremoni groeso i ni Gymry oddi cartref.
"Bod ar lwyfan yr Eisteddfod yn cael ein croesawu gan ein cyd Gymry yw uchafbwynt yr ŵyl i ni.
"Am y munudau emosiynol hyn y deisyfwn fwyaf yn ystod ein hymweliadau â'r Eisteddfod."
Gwelai ef y seremoni fel "un o'r symbolau cryfaf" o "gadwyn sefydlog" sy'n bodoli rhwng Cymry ar hyd a lled y byd ac a hyrwyddir gan Undeb Cymry a'r Byd.
Mae Mr Pritchard wedi tynnu sylw hefyd at y budd ariannol sy'n dod i'r Eisteddfod o dramor gan godi'r cwestiwn a oes peryg i eraill sy'n bwriadu cyfrannu ailfeddwl yn wyneb diddymu'r Seremoni Croeso
Un a fu'n bresennol ym mhob un o'r seremonïau ydi T Elwyn Griffiths, Llywydd Anrhydeddus Undeb Cymru a'r Byd ar hyn o bryd ac ysgrifennydd yr Undeb adeg sefydlu'r seremoni gyntaf yn 1948.
Dywedodd mai ei ofid ef yw na wnaeth yr Eisteddfod fwy o ymdrech i wella'r seremoni yn hytrach na'i lladd.
"Yr ydym oll yn derbyn bod yna le i ddiwygio'r seremoni a'i newid i adlewyrchu'r byd cyfoes ac yr ydw i'n siomedig iawn na ddaethpwyd ag agweddau newydd i'r seremoni yn hytrach na'i dileu," meddai.
"Dros y blynyddoedd fe dyfodd y seremoni hon i fod yn rhan annatod o'r Eisteddfod Genedlaethol.
"Wedi cychwyn eithaf gwan gyda rhyw gant o gynrychiolwyr ar y llwyfan yn y seremoni gyntaf yr oedd 400 ar lwyfan yn Abertawe, 1966 a thua'r un nifer yng Nghaernarfon, 1964. Dyna'r uchelbwyntiau," meddai.
"Trwy ddileu y seremoni yr hyn yr ydym yn ei golli yw'r unig gyfle oedd yn bod i anrhydeddu y Cymry hynny o dramor sydd mpr ffyddlon i Gymru ac i'r Gymraeg mewn gwledydd eraill.
"Hwn, wedi'r cyfan oedd ein hunig gyfle i'w anrhydeddu gerbron y genedl ac yn awr yr ydym wedi ei golli.
"Rwy'n siomedig iawn ein bod yn colli'r cyfle hwnnw," meddai.
|
|
|
|
|
|