91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Seren Hafren
Brendon Lloyd, Russell Owen, Graham Jones, Simon Brown, David Lloyd Jones a Callum Stephen y tu blaen Pump Pencampwr Prydeinig
Tachwedd 2008
Delma Thomas yn adrodd hanes pum pencampwr Prydeinig sydd yn byw yn ardal Caersws.

"Nos Iau , Hydref 16eg daeth trigain o bobl ynghyd ag aelodau'r Cyngor Cymunedol ac aelodau Cymdeithas Adloniant Caersws at ei gilydd i ddathlu ac i anrhydeddu chwech o fechgyn lleol sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y flwyddyn 2007 a 2008 i ddod ag anrhydedd Prydeinig yn ôl i Gaersws.

Mae pump ohonynt yn byw yng Nghymuned Caersws a'r chweched ond tafliad carreg i ffwrdd yn Nhalerddig.

Cyflwynwyd tlysau arian i'r chwech gan Les George. Cadeirydd y Cyngor Cymunedol.

Derbynwyr y tlysau oedd:

BRENDON LLOYD:

Mae Brendon yn Bencampwr Prydeinig , am chwarae Coets. Enillodd Brendon y teitl yn Stonehaven, Swydd Aberdeen, Yr Alban. Enillodd hefyd bencampwriaeth Cymru, ac mae wedi bod yn aelod o dîm Cymru ugain o weithiau a'r tîm hynny erioed wedi colli pan fu Brendon yn aelod ohonno.

RUSSELL OWEN:

Pencampwr Prydeinig yn y maes pysgota yw Russell. Enillodd Russell ei deitl ar Lyn Monteith yn yr Alban lle'r oedd pedwar ar ddeg o gystadleuwyr o bob un o'r gwledydd Prydeinig, Cymru, yr Iwerddon, Lloegr a'r Alban. Mae yntau wedi bod yn aelod o dîm Cymru bump o weithiau ac wedi ennill medal arian ddwy waith. Mae wedi bod yn gapten ar y tîm Cymreig, ac mae ei bartner, Sam wedi ennill pencampwraig Cymru yng nghystadleuaeth i'r merched. Enillodd Russell bencampwriaeth y Byd yn British Columbia yn 1993.

SIMON BROWN A GRAHAM JONES:

Simon sy'n dod o Gaersws a Graham o Dalerddig ydy Pencampwyr Prydain yn rasus yr "ACU Enduro Sidecar". Simon sydd yn y sidecar a Graham yn gyrru'r beic modur. Mae Simon wedi ennill y gystadleuaeth yma o'r blaen pan oedd yn cyd gystadlu gyda Chris Smout, bachgen arall o Gaersws. Eleni mae Simon a Graham wedi ennill y Bencampwrieth ar ôl dod yn ail agos y ddwy flynedd ddiwethaf.

Cynhaliwyd y rownd olaf yn Petersfield yn Lloegr, Cyfarfod dau ddiwrnod oedd hwn, ond ni fu raid i Simon a Graham gysatdlu ar yr ail ddiwrnod gan eu bod wedi ennill digon o bwyntiau i dderbyn y teitl ar y diwrnod cyntaf. Bu'r ddau yn cymryd rhan mewn ras noddedig ar draethau Weston Super Mere yn ddiwddar ac fe gododd y ddau £416 tuag at Ambiwlans Awyr Cymru. Hoffai Simon a Graham ddiolch i bawb sydd wedi eu cynorthwyo ar y ffordd gyda'r cystadlu.

DAVID LLOYD JONES:

Dechreuodd David gystadlu pan yn bymtheg oed, ac wedi ennill amryw o gystadlaethau lleol mae wedi teithio ymhellach ac yn awr wedi ennill yr Enduro Prydeinig, ar ei feic modur. Roedd y cystadlu eleni dros naw o wahanol rasus, ond roedd David wedi ennill y teitl yn y seithfed ras.

CALLUM STEPHEN:

Peidiwch gofyn i fi gyfieithu tasg Callum, ond fe ydy pencampwr Prydeinig yn yr adran iau dan un ar bymtheg oed yn y gystadleuaeth Tae Kwon-Do. Dim ond pedair ar ddeg oed ydy Callum. Enillodd y Belt Du pan yn ddeg oed un o'r ieuengaf ym Mhrydain i wneud . Breuddwyd Callum ydy cael cystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012. Pob lwc iddo.

Wel fel y gallwch ddychmygu roedd pawb oedd yn bresennol yn ymfalchio yn llwyddiant anhygoel y bechgyn yma, ac fe gafwyd noson fendigedig yn eu cwmni.

Llongyfarchiadau i chi gyd ac fe fyddwn yn edrych 'mlaen yn awr i glywed mwy o hanesion eich llwyddiannau.

Paratowyd lluniaeth blasus iawn gan ferch lleol sydd wedi dechrau ei busnes ei hun - Lisa's Pantry. Diolch yn fawr iddi hithau . Mae pentref Caersws yn gallu ymfalchio yn ei ieuenctid a'u gallu i ddisgleirio yn eu gwahanol feysydd. Daliwch ati fechgyn mae'r gymuned tu cefn i chi."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý