Llongyfarchiadau i William John a Mary Elizabeth Evans, Maenicochion, Caersws ar ddathlu penblwydd priodas go arbennig. Mae Johnny a Betty wedi bod yn briod am 65 mlynedd. Mae hyn siŵr o fod yn record ym mhentref Caersws os nad ymhellach i ffwrdd. Derbyniodd y ddau gerdyn arbennig trwy'r post oddi wrth y Frenhines bore Llun, Rhagfyr 5ed. Daeth y teulu i gyd i ddathlu yr achlysur yng Ngwesty Maesmawr Hall. Mae tri o blant ganddynt, Anne, Robert a Wendy, chwech o wyrion ac wyresau ac unarddeg o or-wyrion a gor-wyresau. Gadawodd Johnny yr ysgol yn 14 oed a fe fu'n gweithio trwy gydol ei oes tan ei ymddeoliad pan yn 82 oed. Erbyn hyn mae Johnny yn naw deg oed, ac maen debyg mae ef ydy'r gŵr hynaf yn ardal Caersws (os na ellwch chi fy hysbysu yn wahanol). Llongyfarchiadau i'r ddau ar gyrraedd carreg filltir arbennig iawn.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |