91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Seren Hafren
Logo Urdd Gobaith Cymru Apêl yr Urdd
Ionawr 2006
Urdd Gobaith Cymru yn lansio apêl dros Gymru gyfan am wybodaeth ar gyfer canolfan treftadaeth, 'Caer Chwedlau'.

Yn gynnar yn y flwyddyn 2006 bydd Gwersyll yr Urdd Llangrannog yn croesawu'r ymwelwyr cyntaf i Ganolfan Treftadaeth 'Caer Chwedlau'. Bydd y ganolfan, gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, yn olrhain hanes yr Urdd a'i ddylanwad ar bobl Cymru, yr iaith Gymraeg a'r gymdeithas leol.

Er mwyn creu darlun cywir o'r gwersylloedd ar hyd yr oesoedd mae'r Urdd yn estyn apêl i Gymru gyfan am unrhyw wybodaeth ddiddorol am y gwersylloedd neu'r Urdd a all fod o ddefnydd wrth gynllunio'r Ganolfan Treftadaeth. Boed yn llythyr adref, lluniau o ffrindiau'n mwynhau, neu atgofion am y tripiau lawr i'r traeth a'r canu gyda'r nos a'r pebyll! Bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei ddefnyddio yn y Ganolfan Treftadaeth.

Dywed Steffan Jenkins, Cyfarwyddwr y Gwersyll: "Rydym am greu darlun cyflawn o'r hyn oedd yr Urdd a'r gwersyll yn eu golygu i bobl Cymru, a cheisio dal naws yr amser. Pa ffordd well o wneud hynny na thrwy siarad a chasglu gwybodaeth gan y gwersyllwyr gwreiddiol? Rydym eisoes wedi bod mewn cysylltiad â gŵr o Gaerdydd oedd yn bresennol yn y gwersyll haf cyntaf erioed yn 1932. Mae'r wybodaeth a'r atgofion a gasglwyd o'i brofiadau ef yn amhrisiadwy wrth geisio ail-greu y naws a fu".

Bydd y Ganolfan Treftadaeth yn sefyll o fewn adeiladau hanesyddol fferm Cefn Cwrt, Gwersyll yr Urdd Llangrannog. Cwblhawyd y gwaith ar gragen yr adeilad llynedd gyda chymorth o EAGGF, fel rhan o fuddsoddiad £5.5 miliwn.

Bydd y prosiect yn cynnwys:

  • Canolfan rhyngweithiol i ymwelwyr yn cyflwyno hanes yr Urdd, a'i effaith ar iaith a diwylliant "

  • Ystafell aml bwrpas ar gyfer gweithgareddau addysgiadol

  • Ardal storiau a chyflwyniadau clyweledol (AV)

  • Ardal arddangosfeydd dros dro yn berthnasol i'r arddangosfeydd parhaol
  • Ystafell gyfarfod, astudio a derbynfa

    Un o brif nodau y ganolfan fydd dod â threftadaeth Cymru yn fyw i dros 20,000 o wersyllwyr a hefyd ymwelwyr a thrigolion lleol, trwy ddefnyddio technoleg a'r deunyddiau mwyaf addas a chyffrous. Hyderwn y bydd yn adnodd pwrpasol ac amhrisiadwy a fydd yn cyfoethogi profiadau plant ac oedolion o'r Gwersyll a Llangrannog ei hun.

    Os oes gen unrhyw un eiddo neu wybodaeth ddiddorol am y gwersylloedd y byddent yn hapus i'w rhannu gallwch gysylltu â'r Gwersyll ar 01239 652 140 llangrannogŵurdd.org neu ysgrifennu atom: Gwersyll yr Urdd Llangrannog, Llandysul, Ceredigion SA44 6AE


    Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý