Nos Sadwrn, Tachwedd 29 cynhaiwyd cabaret yn Neuadd y Pentref Caersws.
Arweinydd y Noson oedd Evan Henblas, a gyflwynodd yr artistiaid gwadd yn ei ffordd unigryw ei hun. Angharad Anwyl o Lanbrynmair oedd un o'r artistiaid. Cafwyd unawdau lleisiol ac ar y ffidil ganddi. Prif atyniad y noson oedd Wil Tân o Ynys Môn, gyda Lisa Jones yn harmoneiddio i'w ganeuon.
Bu Martyn Rowlands o Harlech yn chwarae caneuon poblogaidd yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac of wnaeth ddiwedd y noson gan roi cyfle i unrhyw un oedd eisiau dawnsio i godi ar ei draed.
Cafwyd raffl fawr gydag ugain o wobrau yn ystod y noson. Trefnwyd y Noson gan Dilys ac Ifor Williams o Glatter, i godi arian i Gronfa Mynwent Shiloh Clatter. Cafwyd noson bleserus lawn ac roedd pawb wedi mwynhau.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |