91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Seren Hafren
Llun o Lil a Sharon tu allan i Glyn - yr hen gartref O Alberta, Canada i Garno
Rhagfyr 2007
Ymweliad Lil a Sharon o Alberta, Canada i Carno ddiwedd Mis Medi 2007

Mae'r ddwy yma yn perthyn yn agos i Dilys Gittins Mitchell sy'n meddwl cymaint o Gymru a Charno.

Roed Lil wedi priodi Richard Lewis, un o naw o blant a aned i David Edwin, TÅ· Nant, Carno ac Annie Jane (Gittins gynt), chwaer i Gertie Gittins, mam Dilys sy'n byw yn Edmonton Canada. Aeth David Edwin Lewis a Jane i Alberta, Canada yn y flwyddyn 1905 yn gyntaf i Penoka ac yna i Hayter lle bu David Edwin yng ngofal swyddfa bost a hefyd yn gwerthu pob math o offer ffermio. Mae'r tÅ· gwreiddiol yn para - mae ar ei draed ac yn cael pob gofal gan Sharon, merch hynna Lil.

Ganed pedwar o blant i Richard a Lil a phan oedd Sharon yn 7 oed bu farw Richard. Wedi i'r plant dyfu fyny, fe aeth Lil i Katmandu, Nepal i ofalu am gartref i genhadon a bu yno am saith mlynedd.

Y cysylltiad efo TÅ· Mawr, Carno yw bod mam Edwin wedi priodi Simon Jones ac fe aned pedwar o blant iddynt sef Arthur, Richard, Mary a Ceridwen.

Y diwrnod bu Lil a Sharon yn ymweld â Charno cafwyd pob croeso gan Mr Parker i weld Tŷ Mawr. Hefyd bu Mr a Mrs Bill Fairbrother yn garedig iawn yn rhoi croeso iddynt yn yr Hen Efail lle bu tad Annie Jane yn gweithio fel gôf.

Y Glyn oedd hen gartre teulu'r Gittins ac eto cafwyd cyfle i roi croeso iddynt gan Glynne a minnau yn y Maesnant a threuliwyd amser hapus iawn yn olrhain y teulu.

Bu ymweliad â'r Ganolfan lle gwelwyd y plac ar y wal wedi i Dilys a'i gŵr Doug roi £10,000 i gronfa'r Ganolfan yn 2003. Hefyd gwelwyd y Beibl a roddodd Dilys i Gapel Peniel er cof am ei mam Gertie.

Trist oedd gweld Capel Peniel yn dirywio'n awr ond roedd gwell golwg ar yr Hen Ysgol ar gyfer y Capel lle bu Annie Jane Gittins yn mynychu pan yn ferch fach.

Roedd Dilys wedi dymuno i Lil a Sharon weld y melinau gwynt ar y mynyddoedd uwchben Carno a dyna ddiweddglo hyfryd i'r dydd.

Balch iawn oedd Lil a Sharon i brynu darlun yn Yr Aleppo y noson honno o'r union fan ger y melinau gwynt.

Yr oedd Dilys a Doug yn hynod o ddiolchgar o'i dderbyn ar ôl i Lil a Sharon ddychwelyd yn ôl i Ganada.

Fel cydnabyddiaeth o'u pleser o ymweld â Charno fe ddanfonodd Lil a Sharon gyfraniad caredig iawn o £150 i'r Ganolfan. Wel, diolch yn fawr i'r ddwy am eu haelioni. Diolch i Mrs Margaret Lloyd am ddod a'r hanes i'r Seren, oherwydd mae Dilys Gittins (Mitchell) yn derbyn y Seren yn rheolaidd a diolch hefyd i Mr a Mrs Malcolm Lloyd am fynd a'r ddwy i'r gwahanol leoedd drwy'r dydd er mwyn i'r ddwy gael gweld lle bu eu teulu yn gysylltiedig â nhw.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý