91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Seren Hafren
Aberhonddu Cystadleuaeth Calor, Pentref y Flwyddyn ym Mhowys 2003
Ebrill 2003
Teclyn defnyddiol i helpu cymunedau i gynnal, datblygu ac adfywhau eu pentrefi.

Cafwyd lansiad swyddogol i Gystadleuaeth Calor, Pentref y Flwyddyn ym Mhowys 2003 gan PAVO sydd yn gyfrifol am drefnu'r gystadleuaeth yn lleol, yn gynnar yn mis Mawrth, ac maent yn awr yn derbyn ceisiadau.

Nod y gystadleuaeth hon sydd yn seiliedig yn y gymuned, yw cydnabod a dathlu nerth ymdrechion a chyfraniadau cymunedol ymysg pentrefi ym Mhowys, ac yn hyn o beth mae'r gystadleuaeth wedi datblygu o'r Gystadleuaeth Pentref Taclusaf.

Gellir ystyried y gystadleuaeth yn rhan o'r broses ddatblygu cymunedol, ac yn declyn i helpu cymunedau i gynnal, datblygu ac adfywhau bywyd gwledig. Fe fydd y beirniad yn chwilio am gymunedau pentrefol sydd yn sefydlog, yn fodlon ymateb i ddatblygiadau'r dyfodol, ac yn barod i fod o gymorth, ac sydd, er gwaethaf eu maint, wedi gwneud y gorau o gyfleon lleol er cynnal a gwella ansawdd bywyd eu trigolion. Yn ei hanfod, mae'r gystadleuaeth yn chwilio am bentrefi sydd yr ymwneud â phobi.

Mae'r gystadleuaeth yn canolbwyntio ar agweddau pwysig bywyd pentref, sydd yr amlwg yng nghategoriau'r gystadleuaeth, sef cymuned, busnes, pobl ifanc, pobl hyn, yr amgylchedd a thechnoleg gwybodaeth. Trwy ganolbwyntio ar gategoriau, fe fydd y broses yn gallu gwobrwyo pentrefi am gategorïau neilltuol, yn ogystal â'u helpu i adnabod bylchau ar gyfer gwaith datblygu yn y dyfodol.

Gellir derbyn ceisiadau gan grwpiau lleol, cynghorau cymuned, cymdeithasau hamdden neu bwyllgorau neuaddau pentref. Fe fydd eich pentref yn elwa, boed yn ennill neu'n colli, oherwydd y profiadau amrywiol sy'n deillio o gystadlu, gan gynnwys:

- Ennill dealltwriaeth o'r hyn sydd yn llwyddiannus yr y pentref, a lle efallai y bydd angen newid perthnasol
- Defnyddio amrywiaeth o sgiliau ac egni lleol
- Annog y gymuned i gydweithio ac i godi ysbryd y gymuned
- Rhannu balchder a chyraeddiadau gyda phentrefi eraill
- Rhannu ymarfer da, a syniadau rewydd o bentrefi eraill
- Ennill dealltwriaeth o'r amrediad o wasanaethau a gynigir gan PAVO

Fe fydd y pentref buddugol ym Mhowys yn ennill y teitl urddasol a thystysgrif yn ogystal a £500 ac yn cael el enwebu i gynrychioli Powys yn y gystadleuaeth Pentref Cenedlaethol y Flwyddyn. Mae PAVO yr ceisio denu nawdd ychwanegol i ennillwyr y categoriau gwahanol.

Y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau yw 16eg Mai, a cheir ffurflenni cais (copi caled neu ar ddisg) o bob un o swyddfeydd PAVO ac o enquiries@pavo.org.uk

Os hoffech drafod eich cais gydag un o'r Swyddogion Datblygu, cysylltwch â Hayley Price yn Swyddfa Aberhonddu 01874 622631 neu drwy ebost hayley@pavo.org.uk


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý