91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Seren Hafren
Greta Vaughan (Fflur Medi Owen) a Karl Weissman (Owen Arwyn) Sarhad i Faldwyn?
Chwefror 2007
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn llwyfannu addasiad o'r nofel Cysgod y Cryman mewn theatrau ar draws Cymru, ond er bod y nofel wedi ei seilio ym Maldwyn - nid yw'n cael ei pherfformio yn Theatr Hafren ...
  • Ar dudalen 11 o Seren Hafren (rhifyn Chwefror 2007) fe welwch Ddatganiad i'r Wasg gan gwmni Theatr Genedlaethol Cymru.

    Newyddion Da! Mae'r cwmni yn cyflwyno Cysgod y Cryman ar lwyfan am y tro cyntaf. Mae'n hanner can mlynedd ers i un o nofelau mwyaf adnabyddus Maldwyn a'r Gororau gael ei chyhoeddi. Ble felly mae'r ddrama bwysig hon yn cael ei pherfformio?

    Ym Mrycheiniog ac yn Yr Wyddgrug! Beth sydd a wnelo'r lleffydd hyn a Maldwyn? Onid oes 'na Theatr ragorol ym Maldwyn? - Theatr Hafren.

    Anelwyd y datganiad i bapurau bro Maldwyn a'r Gororau. Pam felly nad oes perfformiad ym Maldwyn? Tybed a ydy'n cwmni cenedlaethol ni yn gwybod nad yw Brycheinlog na'r Wyddgrug ym Maldwyn'? Disgrifia'r cwmni nofel Islwyn Ffowc Elis fel un o nofelau mwyaf adnabyddus Maldwyn. Onid yw'r cwmni yn sylweddoli fod na theatr ym Maldwyn?

    Siaradodd Seren Hafren gyda Cwmni Utgorn a cael dau reswm. Yn gyntaf, profodd yn amhosib i gael dyddiad addas gan Theatr Hafren ac yn ail, gan fod y sioe yn un fawr gyda cast o ryw 24 a set gymleth, roedd 'na gwestiwn a oedd Theatr Hafren yn addas. Tybed! Roedd cast Cwmni Theatr Maldwyn yn fwy o lawer na 24 a'r setiau yn gymhleth hefyd.

    Ar ôl gwneud ymholiadau yn Theatr Hafren mae Seren Hafren yn deall fod 'na anhawster ynglŷn â chael dyddiad addas yn ystod taith Cysgod Y Cryman. Mae hefyd yn bosib nad yw llwyfan ein theatr lleol ddim yn ddigon mawr i'r cynhyrchiad. Serch hynny, mae'n biti mawr nad yw'r ddrama bwysig hon yn dod i Faldwyn.

    Gyda llaw mae gwefan y cwmni yn dangos dyddiadau'r daith a diddorol yw gweld y bydd perfformiad yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar 27 - 28 Chwefror. O leia mae hynny'n nes nag Aberhonddu neu Yr Wyddgrug!

  • Adolygiadau Cysgod y Cryman


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý