91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Seren Hafren
Aelodau Grwp Cyswllt Ymweliad â Neuadd Cynhinfa
Gorffennaf 2006
Aelodau Grŵp Cyswllt yn ymweld â Neuadd Cynhinfa yn Dolanog.

Ar noson braf cawsom groeso i gartref hanesyddol ac unigryw Nerys ac Emyr Wyn Jones i weld canlyniad (llafur cariad) gwaith manwl, ail - adeiladu dros y degawd diwethaf.

Eu syniad cyntaf oedd dymchwel gweddillion yr hen adeilad a dechrau o'r dechrau, and unwaith iddynt gymryd y waliau "modern" i lawr a darganfod y strwythur o dderw, gwyddent fod rhywbeth arbennig iawn i'w warchod. Buont yn byw mewn carafan ar y safle am dros dair blynedd wrth geisio creu cartref cysurus ac ar yr un pryd cyd-weithio â gofynion amryw o sefydliadau cadwraeth.

Cafodd tai fframwaith derw, fel Neuadd Cynhinfa, eu rhagsaernio gan y prif (neu ben) saer. Yna fe godwyd y tŷ lle bynnag 'roedd y perchennog yn dymuno. Gan eu bod yn cael eu dal at ei gilydd gan begiau derw 'roedd yn bosibl i'r tŷ cael eu symud o un lleoliad i un arall - fel rhyw "brefab" canol oesoedd! Amcangyfrifir bod rhannau o'r neuadd wreiddiol (un llawr uchel a thrawstiau agored ac aelwyd ar gyfer gwresogi a choginio) yn mynd yn ôl i 1507 ond, wrth gwrs, fe addaswyd dros y blynyddoedd drwy ychwanegiadau fel y simne fawr (oddeutu 1650), lloriau ac ystafelloedd.

Mae Nerys ac Emyr wedi llwyddo i greu campwaith - cartref clyd a manteision y 21ain Ganrif, gyda defnyddiau a chrefftau'r Canol Oesoedd. Fel yn y 16eg a'r 17eg Ganrif croesawant Feirdd cyfoes i Neuadd Cynhinfa a gwelir hefyd Delyn ar yr aelwyd. Mae Nerys ac Emyr yn hael iawn eu cefnogaeth at Uned Cobalt yn Ysbyty'r Amwythig.

Wedi'r ymweliad mynegwyd diolchiadau priodol i Nerys ac Emyr gan John Evans cyn teithio'r ychydig filltiroedd i'r "Tanws" am swper a sgwrs. Croesawodd David Morris, Cadeirydd CYSWLLT, Wyn Richards o Aberhafesb fel gwestai i Fryn Davies; cyhoeddodd mai am 6.30 yh, nos Fercher y 5ed o Orffennaf y byddwn yn cyfarfod nesaf - wrth Dafarn y "Star" yn Nylife i gael ein tywys oddi cwmpas yr ardal ddiddorol hon gan y Prifardd Cyril Jones.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý