91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Seren Hafren
Jasmine McKelvey Llwyddiannau'r Fro - Eisteddfod Tawe Nedd ac Afan
Gorffennaf 2003
Yn ystod wythnos y Sulgwyn cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Tawe Nedd ac Afan ar faes godidog Parc Margam ger Port Talbot.

Yn wreiddiol yn gartref i'r teulu Talbots, set un o deuluoedd diwydiannol mwyaf Cymru, profodd y maes yn llwyddiant ysgubol gan i'r Urdd arbrofi eleni trwy gynnal yr holl ragbrofion ar un maes yn hytrach na defnyddio ysgolion a chanolfannau cyfagos.

Daeth cryn lwyddiant i ardal y Seren o'r diwmod cyntaf gyda Jasmine McKelvey o Ysgol Gynradd Llanidloes yn cyrraedd y llwyfan ar y gystadleuaeth Llefaru i Ddysgwyr gan gipio'r wobr gyntaf. Ar ddiwedd y sesiwn gyntaf o gystadlu, daeth yn amser i baratoi'r Pafiliwn ar gyfer Noson Gystadlaethau y Caneuon Actol ac yn dilyn llwyddiant Ysgol Dafydd Llwyd y llynedd roedd rhieni, teidiau, neiniau ac athrawon yr Ysgol i gyd wedi cyrraedd i gefnogi'r plant yn eu perfformiad.

Ar ddiwedd noson, ac o fewn Pafiliwn llawn, cafodd eu cefnogaeth ei chydnabod gyda'r cyhoeddiad gan arweinydd ym llwyfan sef ... 'Yn gyntaf ... Ysgol Dafydd Llwyd' camp arbennig yw ennill un o brif gystadlaethau yr Eisteddfod am ddwy flynedd yn olynol. Ymlaen yn awr i 'Steddfod Môn am yr hat trick'!!

Un o uchafbwyntiau'r dydd ar y dydd Mawrth gan sylwebyddion y teledu oedd perfformiad Bethan Morgan Williams, merch Mr Ian Morgan Williams, athro cerdd Ysgol Uwchradd y Drenewydd, wrth iddi ennill yr unawd llinynnol dan 12 oed, a braf hefyd yw nodi i'r Ysgol Uwchradd ennill y wobr gyntaf am waith ar fideo i ddysgwyr.

Profodd Eisteddfod eleni yn un hynod o lwyddiannus i ardal Llanidloes gyda Jessamy Ashton o'r Ysgol Uwchradd yn cipio'r ail wobr am lefaru i Ddysgwyr 12- 15 oed ac yn y maes cerddorol gwelwyd uchafbwyntiau i'r ysgol ar y dydd Iau wrth iddynt ennill y wobr gyntaf ar gyfer y gystadleuaeth Ensemble dan 15 oed.

Roedd eleni yn flwyddyn arbennig i Aeron Preston gan iddo ennill amryw o wobrau - yn gyntaf enillodd y wobr gyntaf ar gyfer yr unawd Piano 12-15 oed ar y dydd lau. Ac yna gyda Fiona Leslie enillwyd y 3edd wobr yn y gystadleuaeth Ddeuawd Piano dan 19 oed. Yn ôl y beirniad Branwen Evans, Aeron oedd hefyd y pianydd mwyaf addawol o'r holl gystadleuwyr o dan 19 oed ac ef felly dderbyniodd Dlws Siop Eifionydd. Dymuniadau gorau iddo i'r dyfodol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý