91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Seren Hafren
Oedfa sefydlu dau weinidog Oedfa sefydlu dau weinidog
Mawrth 2007
Daeth cynulleidfa deilwng i Gyfarfod Sefydlu unigryw a gynhaliwyd yng Nghapel Heol China, Llanidloes, Nos Fercher, Chwefror 7fed.
Yn yr oedfa sefydlwyd dau weinidog i wasanaethu chwe eglwys Gymraeg Cylch Llanidloes:- Heol China, Llanidloes; Llangurig; Manledd, Y Fan; Llawryglyn; Y Graig, Penfforddlas; Bont, Llanbrynmair.

Wedi ymddeoliad Y Parch. John Pinion Jones penderfynwyd creu un ofalaeth yn Nyffryn Hafren yn cynnwys gofalaethau Y Parch. Edwin Owen Hughes a'r Parch. Jenny Garrard a'r chwe eglwys a enwyd, cyfanswm o bymtheg o eglwysi.

Hefyd ymunodd Eglwys Aberbechan, o Henaduriaeth Montgomery and Shropshire â'r ofalaeth newydd a hynny yn golygu fod wyth eglwys Saesneg ac wyth eglwys Gymraeg dan ofal y ddau weinidog.

Hefyd, mae Capel yr Annibynwyr, y Capel Coffa, yn addoli gyda Bethel yn Y Drenewydd bob Sul, yn ogystal a Chapel yr Annibynwyr, Creigfryn a Pheniel yng Ngharno.

Y bwriad yw y bydd y ddau weinidog yn gweithio fel tîm, gyda Jenny yn ychwanegu pregethu ar y Sul, gan amlaf, ym Manledd a Llangurig at ei heglwysi presennol ac Edwin yn ychwanegu'r gweddill.

Bydd y ddau yn rhannu'r gofal bugeiliol rhyngddynt fel bo'r galw.

Golyga yr ehangu hwn y bydd mwy o gyfrifoldeb ar ysgwyddau'r blaenoriaid, a byddent hwythau'n rhan hanfodol o'r tîm, fel, yn wir, y bydd yr holl aelodau.

Mae'n fenter gyffrous, ac edrychwn ymlaen i'r dyfodol yn hyderus yng Ngofalaeth Hafren.

Bu'r oedfa'n oedfa hyfryd dan lywyddiaeth Cyn-lywydd Henaduriaeth Trefaldwyn Uchaf a blaenor yn Heol China, Mr. Hefin Bennett.

Cymerwyd rhan hefyd gan Mrs. Ann Griffiths, Mrs. Bethan Lloyd Owen, Y Parch. Nerys Tudor a'r Parch. Emrys Wyn Evans.

Mr. Bryn Davies oedd wrth yr organ ac ef estynnodd groeso i'r ddau weinidog ar ran y chwe eglwys.

Traddodwyd y Siars gan y cyn-weinidog, Y Parch. John Pinion Jones. Paratowyd paned yn y festri i bawb ar ôl yr oedfa.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý