91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Seren Hafren
Glyn Davies Aelod Seneddol Maldwyn
Mehefin 2010
Hanes Glyn Davies, y Ceidwadwr, sydd yn cynrychioli Maldwyn yn San Steffan

Mae bwrlwm mis o ganfasio gwleidyddol wedi gorffen. Y curo ar y drysau, y dadlau ar y teledu ac ar y radio, a'r cyffro i gyd wedi dod i ben. Mae'r pleidleisio wedi bod, a'r drysau wedi cau ar Fai 6ed.

Casglwyd y blychau duon ac i'r Trallwng yr aeth criw gweithgar a diwyd i gyfrif y pleidlesiau. Deng munud wedi dau, ar y bore Gwener y daeth y canlyniad, ac fel hyn roedd pethau'n sefyll ym Maldwyn.

Glyn Davies 13,976
Lembit Opik 12,792
Heledd Fychan 2,802
Nick Colbourne 2,407
David Rowlands 1,128
Milton Ellis 384
Bruce Lawson 324

Roedd 69.4 y cant wedi troi allan i roi'r groes yn y sgwar bach o'u dewis. Canran eithaf uchel o'r bobiogaeth.

Glyn Davies, y Ceidwadwr felly fydd yn cynrychioli Maldwyn yn San Steffan.

Liongyfarchiadau iddo, a gobeithiwn yn fawr y bydd yn wir roi Maldwyn ar y map Prydeinig yn Nhy'r Cyffredin.

Dyn cefn gwlad o Faldwyn, wedi'i eni a'i fagu ar fferm deuluol ger Castell Caereinion ydy Glyn Davies, yn briod a Bobbie, ac yn dad i bedwar o blant, ac yn daid i Ffion a Darragh.

Mae wedi cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus ym Maldwyn ers dros ddeng mlynedd ar hugain.

Ymunodd yn y Ile cyntaf a Chyngor Cymuned Aberriw, ac fe fu yn aelod o Gyngor Dosbarth Maldwyn.

Yn fwy diweddar treuliodd wyth mlynedd yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Drws San Steffan sydd ar agor iddo bellach, a dymunwn yn dda iddo, fel un o ddarllenwyr y Seren, yn ei swydd newydd bwysig lawn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý