"Annwyl briod, mam gariadus a nain ofalgar. Gweithwraig serchog, dygn a ffyddlon dros Gymru, ei chyd-ddyn a'i Christ, oll gyda hiwmor byrlymus, doethineb dwfn a chynhesrwydd cynhwysol. Fe welir ei cholli yn aruthrol gan deulu, capel a chymdeithas fel ei gilydd ond fe gofir am ei hymroddiad, ei hwyl a'i charedigrwydd cyson."
Wedi darllen y geiriau yma, beth arall sydd yna i ni ddweud am y wraig arbennig hon? Pan enillodd Fedal Syr Thomas Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1989, ymddangosodd yr hanes a ganlyn yn y Seren ar ôl ei gwobrwyo.
Cyflwynwyd y fedal iddi am ei gwaith yn hyrwyddo diwylliant a'r iaith Gymraeg yn ei hardal. Gwyddom i gyd am ei gwaith di-flino ym Maldwyn a rhannau eraill o Gymru dros y blynyddoedd.
Ganwyd Margaret Janet Jones (Sioned Penllyn) ym Melin Meloch, y Bala yn 1911. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Y Bala ac Ysgol Sir y Merched, Y Bala cyn mynd i'r Coleg Normal ym Mangor. O'r coleg, penodwyd hi'n brifathrawes Ysgol Capel Celyn. Oddi yno aeth i ddysgu i Rosygwalia.
Cyfarfu a'i diweddar briod, y Parchg, W.E.Jones (ap Gerallt) mewn ffordd ramantus iawn - ar fordaith yr Urdd i Lydaw a Thangiers. Ar ôl priodi, aethant i fyw i'r Barri lle y ganwyd yr efeilliaid, Dwyryd a Tegid. Roedd hyn yn ystod y rhyfel tra'r oedd Caerdydd ac Abertawe yn cael eu bomio'n ddidrugaredd.
O'r Barri, symudodd y teulu i Lanerchymedd a bu Sioned yn brysur iawn gyda Cymdeithas Ddrama Môn gan roi cychwyn i Theatr Fach Llangefni. Symud wedyn i Wrecsam lle y ganed Sioned, Elenid a Maelorwen. Bu Mrs Jones yn brysur yno eto yn rhoi cychwyn i'n Ysgol Gymraeg yn y dref.
I Faldwyn wedyn. I Garno am saith mlynedd cyn symud i'r Drenewydd.
Bu'n hynod o brysur ym mywyd Cymreig y dref am flynyddoedd. Roedd hi'n un o'r rhai a roes gychwyn i'r Cylch Meithrin a'r Uned Gymraeg yn y dref a chadwodd gysylltiad â'r ddau am flynyddoedd. Roedd hefyd yn un a aelodau cyntaf Merched y Wawr yn Y Drenewydd a bu'n ysgrifennydd ac yn llywydd Rhanbarth Maldwyn. Braint fawr iddi oedd cael bod yn Llywydd Cenedlaethol y mudiad o 1974 i 1976. Pan oedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Drenewydd yn 1965, Sioned Penllyn oedd ysgrifennydd Pwyllgor yr Orsedd. Bu'n ddiwyd iawn gyda Eisteddfod Talaith a Chadair Powys yn Y Drenewydd yn 1971 ac anrhydeddwyd hi gan Orsedd Powys drwy'i hurddo yn Dderwydd Gweinyddol am dair blynedd yn nechrau'r saithdegau.
Gwasanaethodd ar Gyngor 91Èȱ¬ Cymru am bum mlynedd ac ar Gyngor Defnyddwyr y Swyddfa Bost a Telecom am bum mlynedd.
Enillodd nifer o gadeiriau eisteddfodol a nifer o weithiau ar y Stori Fer a chystadlaethau eraill yn adran lenyddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol
Roedd Capel Coffa Milford Road yn agos iawn at ei chalon a gweithiai'n ddi-flino i sicrhau fod pregethwr yn y capel o Sul i Sul. Os na fyddai pregethwr - yna fe drefnai wasanaeth. A'i o gwmpas yr ardal i gynnal oedfaon hefyd gan bregethu'n raenus ar bob achlysur.
Bu'n ysgrifennu colofn "I'r Cymry" yn y County Times am dros 30 mlynedd ac ymddangosodd ei cholofn olaf , a ysgrifennwyd ar ddiwedd ei bywyd, yn Ysbyty'r Amwythig, yn y County Times heddiw (18/6/04). Hanes Syr Emrys Evans yn dathlu ei ben blwydd yn bedwar ugain oed. Mae'r iaith ar arddull mor ffres ag erioed - tipyn o ddynes!
Mae'n siŵr mai Sioned Penllyn oedd mam Seren Hafren. Roedd hi yno ar yr enedigaeth ac fe'i magodd yn annwyl ar hyd y blynyddoedd. Chlywsom ni erioed mohoni'n dweud ei bod wedi cael llond bol ar y golygu ac er i ni gael aml i anffawd neu amryfusedd - dal ati'n ddi-rwgnach a wnai Sioned.
Pan ymddeolodd o'r papur, roedd hi'n chwith iawn hebddi ar noson cysodi. Roedd hi'n chwith heb y bag mawr du di-waelod hwnnw y deuai rhyw luniau neu erthyglau allan ohono'n gyson.Roedd yn chwith i ni heb y tudalennau di-ri rheiny yn ei llawysgrifen unigryw ei hun - bob un ar gefn rhyw dudalen o ysgrifen ddieithr nad oedd ag unrhyw gysylltiad â'r Seren. Oedd, roedd Sioned Penllyn wedi dysgu ail-gylchu cyn bo'r gair wedi dod yn ffasiynol!
Roeddem ni fel tîm yn faich ohoni; yn lwcus tu hwnt ei bod hi yno. Yno i roi cyngor, i fynegi barn ac i roi o'i doethineb, ei gallu a'i diwylliant. Roedd hi yno i gadw trefn arnom ni er ei bod yn hoff o jôc ac roedd sbarc yn y llygaid bob amser.
Mae ein dyled fel papur bro i Sioned Penllyn, yn enfawr a diolchwn am ei hymroddiad dros y blynyddoedd.
Un o binaclau bywyd Sioned Penllyn mae'n siŵr, oedd gweld sefydlu Ysgol Gymraeg Benodedig yn Y Drenewydd. Hi gafodd y fraint haeddiannol o agor Ysgol Dafydd Llwyd ym mis Medi 2001 ac er ei hoedran teg - fe safodd o flaen y meic gyda medal Syr Thomas Parry-Williams o gwmpas ei gwddf a siaradodd yn huawdl am hanes addysg Gymreig yn Y Drenewydd o'r Cylch Meithrin yn1965 hyd at 2001.
Diolch am bopeth Sioned - roedd hi'n fraint cael eich adnabod.
Bu farw'n dawel ar Fehefin 5ed yn 92 mlwydd oed. Cynhaliwyd dathliad o'i bywyd yng Nghapel y Bedyddwyr, Y Drenewydd, Dydd Sadwrn, 12fed Mehefin gyda'r Parchedig W.J.Edwards yng ngofal y gwasanaeth. Talwyd teyrnged iddi gan y Doctor Glyn Tegal Hughes a chafwyd cyflwyniadau gan y Doctor Gerwyn Williams a Mr Penn Roberts. Traddodwyd y weddi gan y Parchedig Edwin Hughes. Mr Bryn Davies oedd wrth yr organ.
Cludwyd ei gweddillion i wasanaeth preifat yn Llanuwchllyn.
"Hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth."