91热爆

Polisi economaidd, cymdeithasol a hiliol y Nats茂aidErledigaeth y Nats茂aid ar yr Iddewon

Roedd Hitler wedi amlinellu ei syniadau yn Mein Kampf. O 1933 ymlaen, roedd gweithredu'r syniadau hyn yn effeithio ar sawl agwedd ar fywyd yr Almaen. Sut gwnaeth polisi economaidd, cymdeithasol a hiliol y Nats茂aid effeithio ar fywyd yn yr Almaen?

Part of HanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Erledigaeth y Nats茂aid ar yr Iddewon

Y gr诺p a dargedwyd galetaf i鈥檞 herlid gan y Nats茂aid oedd Iddewon yr Almaen. Gyda dyfodiad yr Ail Ryfel Byd daeth erchylltra鈥檙 lladd torfol a鈥檙 Ateb Terfynol, ond gwelwyd cynnydd graddol yn yr erledigaeth yn ystod 1933, nes cyrraedd trobwynt yn ystod Kristallnacht yn Nhachwedd 1938.

1933

  • Nats茂aid yn trefnu boicot o fusnesau Iddewig.
  • Llosgi llyfrau gan awduron Iddewig yn gyhoeddus.
  • Diswyddo Iddewon o swyddi gweision sifil, cyfreithwyr ac athrawon.
  • Cyflwyno gwersi gwyddoniaeth hil, yn dysgu bod Iddewon yn is-ddynol.

1935

yn ffurfioli gwrth-Semitiaeth yn y wladwriaeth Nats茂aidd fel a ganlyn:

  • Dwyn Almaenig oddi ar Iddewon.
  • Gwahardd priodi a pherthynas rywiol rhwng Iddewon ac Almaenwyr.
  • Dwyn pob hawl sifil a gwleidyddol oddi ar Iddewon.

1938

  • Ni allai Iddewon fod yn feddygon.
  • Roedd rhaid i Iddewon ychwanegu鈥檙 enw Israel (dynion) neu Sara (menywod) at eu henw.
  • Gwahardd plant Iddewig rhag mynd i鈥檙 ysgol.
  • Kristallnacht - 9 Tachwedd. Trefnodd yr SS ymosodiadau ar gartrefi, busnesau a synagogau鈥檙 Iddewon i ddial am lofruddiaeth y llysgennad Almaenig yn Ffrainc gan Iddew.

1939

  • Gwaharddwyd Iddewon rhag bod yn berchen ar fusnes, na hyd yn oed radio.

Erbyn dechrau鈥檙 Ail Ryfel Byd ym Medi 1939, doedd gan yr Iddewon ddim gwladwriaeth, roedd cyfyngiadau difrifol ar eu hopsiynau cyflogaeth yn yr Almaen ac roeddent yn ofni am eu diogelwch.