Polisïau’r Natsïaid tuag at fenywod
Barn y Natsïaid am fenywod a’r teulu
Yn ystod y 1920au, gwnaed cynnydd sylweddol i fywydau menywod yn Almaen Weimar - hawliau pleidleisio cyfartal, cynnydd yn nifer y menywod mewn swyddi proffesiynol a gweithgareddau hamdden annibynnol.
Er hynny, roedd gan y Natsïaid syniadau clir ynghylch beth roedd arnynt ei eisiau gan fenywod. Roedd disgwyl iddynt aros gartref, gofalu am y teulu a chynhyrchu plant er mwyn diogelu dyfodol yr hil AriaiddRhywun o dras Ewropeaidd – nid Iddewig – yn aml â gwallt melyn a llygaid glas. Credai’r Natsïaid mai’r Ariaid oedd yr hil ddynol oruchaf..
Credai Hitler y dylai bywydau menywod droi o amgylch y tair K.
Priodas a theulu
Roedd Hitler eisiau cyfradd enedigaethau uchel er mwyn cynyddu’r boblogaeth Ariaidd. Ceisiodd sicrhau hyn drwy’r camau canlynol:
- cyflwyno’r Ddeddf er Hybu Priodas yn 1933 a roddai fenthyciad o 1,000 marc i barau priod newydd, a gadael iddynt gadw 250 marc am bob plentyn a gaent
- rhoi gwobr a elwid yn Groes y Fam i fenywod a gâi niferoedd mawr o blant. Os câi menyw 5 o blant, câi fedal efydd. Byddai mam i 6 neu 7 o blant yn ennill medal arian. Rhoddid medal aur i fenywod fyddai’n geni 8 neu ragor o blant
- caniatáu i fenywod wirfoddoli trwy Lebensborn i gael babi un o aelodau Ariaidd yr SS
Cyflogaeth
Cyflwynwyd camau i roi anogaeth gref i fenywod beidio â gweithio, gan gynnwys:
- cyflwyno Deddf Lleihau Diweithdra, a gynigiai gymhellion ariannol i fenywod aros gartref
- peidio â consgripsiwnGorfod ymuno yn ymdrech rhyfel gwlad trwy gyfraith. menywod i helpu yn ymdrech y rhyfel tan 1943
Ond roedd llafur benywaidd yn rhad, a rhwng 1933 ac 1939 codi wnaeth nifer y menywod oedd mewn gwaith, o 2.4 miliwn. Wrth i economi’r Almaen dyfu, roedd angen menywod yn y gweithle.
Golwg
Roedd disgwyl i fenywod efelychu ffasiynau gwerin Almaenaidd traddodiadol – gwisgoedd gwerinol plaen, gwallt wedi’i blethu neu ei glymu, ac esgidiau gwastad. Doedd dim disgwyl iddyn nhw wisgo colur na thrywsus, lliwio’u gwallt nac ysmygu’n gyhoeddus. Caent eu hannog i fagu pwysau, gan fod cred fod menywod tenau’n cael trafferth geni plant.