91ȱ

Polisi economaidd, cymdeithasol a hiliol y NatsïaidPolisi’r Natsïaid tuag at weithwyr

Roedd Hitler wedi amlinellu ei syniadau yn Mein Kampf. O 1933 ymlaen, roedd gweithredu'r syniadau hyn yn effeithio ar sawl agwedd ar fywyd yr Almaen. Sut gwnaeth polisi economaidd, cymdeithasol a hiliol y Natsïaid effeithio ar fywyd yn yr Almaen?

Part of HanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Polisi’r Natsïaid tuag at weithwyr

Gweithwyr diwydiannol

Llun o Adolf Hitler yn cyfarfod â gweithwyr diwydiannol yn yr Almaen.

Cyn 1933 nid oedd y Natsïaid wedi cael fawr o gefnogaeth ymhlith y gweithwyr, a dueddai i bleidleisio dros y comiwnyddion neu’r Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol. Oherwydd anghenion ailarfogi’r Almaen roedd yn bwysig sicrhau gweithwyr cynhyrchiol a than reolaeth.

Sefydlodd y Natsïaid dri chorff a fyddai’n rheoli gweithwyr yr Almaen.

Y Ffrynt Llafur (DAF)

Corff a sefydlwyd gan y Natsïaid oedd hwn i gymryd lle undebau llafur, a gafodd eu gwahardd. Byddai’n pennu cyflogau a bron bob amser yn dilyn dymuniadau’r cyflogwyr, yn hytrach na’r gweithwyr.

Cryfder drwy Lawenydd (KdF)

Cynllun oedd hwn a roddai wobrwyon i weithwyr am eu gwaith – dosbarthiadau nos, tripiau i’r theatr, picnic, a hyd yn oed wyliau rhad iawn neu am ddim. Pwrpas y KdF oedd cefnogi’r Führer a diolch iddo a chadw pawb yn hapus wedi i’r undebau llafur gael eu diddymu.

Dr Robert Ley oedd yn gyfrifol am y KdF, ac un o’i gynlluniau poblogaidd oedd y Volkswagen – car y bobl. Roedd modd talu am y car mewn rhandaliadau, a fyddai’r prynwr ddim ond yn derbyn y car wedi iddynt dalu’r pris yn llawn. Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd yn 1939, bu’n rhaid i’r ffatrïoedd ceir droi eu sylw at wneud arfau. O ganlyniad, collodd llawer o Almaenwyr eu harian, a bu gwrthdystiadau yn erbyn Ley.

Prydferthwch Llafur

Gwaith y corff hwn oedd helpu Almaenwyr i weld bod gwaith yn dda, ac y dylai pawb a fedrai weithio wneud hynny. Roedd hefyd yn annog perchnogion ffatrïoedd i wella amodau i’r gweithwyr. Roedd y sefydliad Prydferthwch Llafur yn gwella amodau mewn rhai mannau gwaith gyda chyfleusterau bwyta gwell, toiledau ac weithiau cyfleusterau chwaraeon hyd yn oed.

Ni fu gwelliant gwirioneddol yn safonau byw gweithwyr yr Almaen yn y diwydiannau nad oedd yn ymwneud â gwneud arfau dan y Natsïaid. O 1933 i 1939:

  • gostyngodd cyflogau
  • cynyddodd nifer yr oriau gwaith 15 y cant
  • cynyddodd damweiniau difrifol mewn ffatrïoedd
  • gallai gweithwyr gael eu rhoi ar restr ddu gan gyflogwyr am gwestiynu eu hamodau gwaith