91热爆

Polisi economaidd, cymdeithasol a hiliol y Nats茂aidPolisi economaidd y Nats茂aid: effaith ar Almaenwyr

Roedd Hitler wedi amlinellu ei syniadau yn Mein Kampf. O 1933 ymlaen, roedd gweithredu'r syniadau hyn yn effeithio ar sawl agwedd ar fywyd yr Almaen. Sut gwnaeth polisi economaidd, cymdeithasol a hiliol y Nats茂aid effeithio ar fywyd yn yr Almaen?

Part of HanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Effaith polis茂au economaidd y Nats茂aid ar bobl yr Almaen

Cafodd polis茂au economaidd y Nats茂aid wahanol effeithiau ar wahanol grwpiau economaidd yn y gymdeithas.

Busnesau mawr - Roedd y Nats茂aid wedi addo ffrwyno grym y , ond erbyn 1937 nhw oedd yn rheoli dros 70 y cant o gynhyrchu. Bu ailarfogi o 1935 ymlaen yn hwb i elw cwmn茂au arfau mawr, a gwelodd rheolwyr y prif gwmn茂au diwydiannol godiad o 50 y cant yn eu hincwm rhwng 1933 ac 1939.

Busnesau bach - Tynhawyd y rheolau ynghylch agor a rhedeg busnesau bach, gan achosi i 20 y cant ohonynt gau.

Ffermwyr - A hwythau wedi bod yn un o brif ffynonellau eu cefnogaeth etholiadol yn ystod eu hesgyniad i rym, elwodd ffermwyr dan y Nats茂aid. Erbyn 1937, roedd prisiau amaethyddol wedi codi 20 y cant a chododd cyflogau amaethyddol yn gynt na chyflogau mewn diwydiant. Pasiwyd Deddf Ffermydd Etifeddol yn 1933 a sicrhaodd na ellid adfeddiannu ffermydd oddi wrth eu perchnogion, gan roi mwy o sicrwydd i deuluoedd ffermio.

Er colli eu rhyddid, gwella wnaeth bywyd yn yr Almaen i lawer o bobl gyffredin a oedd yn barod i gydymffurfio er mwyn cael swydd a chyflog.