91热爆

Polisi economaidd, cymdeithasol a hiliol y Nats茂aidErlid lleiafrifoedd

Roedd Hitler wedi amlinellu ei syniadau yn Mein Kampf. O 1933 ymlaen, roedd gweithredu'r syniadau hyn yn effeithio ar sawl agwedd ar fywyd yr Almaen. Sut gwnaeth polisi economaidd, cymdeithasol a hiliol y Nats茂aid effeithio ar fywyd yn yr Almaen?

Part of HanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Erlid lleiafrifoedd

Roedd gan Hitler a鈥檙 Nats茂aid syniadau pendant ynghylch hil. Credent fod rhai grwpiau鈥檔 israddol ac yn fygythiad i burdeb yr hil . Targedwyd sawl gr诺p i鈥檞 herlid, gan gynnwys Slafiaid (pobl dwyrain Ewrop), , pobl hoyw a phobl anabl 鈥 ond ni thargedwyd neb yn fwy na鈥檙 Iddewon.

Yn 1933, roedd gr诺p bach cynyddol o bobl ddu yn byw yn yr Almaen, a chawson nhw eu herlid gan y Nats茂aid. Fe gawson nhw eu hanffrwythloni trwy orfodaeth, gwnaed arbrofion meddygol arnynt, a chawson nhw carcharu, eu trin yn giaidd ac weithiau eu llofruddio. Ond doedd dim rhaglen systematig i鈥檞 difa fel yr oedd ar gyfer Iddewon a grwpiau eraill.

Credoau hiliol y Nats茂aid

Llun yn dangos dyn yn cael mesur ei drwyn yn ystod profion penderfynu hil Ariaidd dan Gyfreithiau Nuremberg yr Almaen Nats茂aidd a ddefnyddiwyd i benderfynu a g芒i rhywun ei ystyried yn 鈥業ddew鈥.

Roedd athroniaeth hiliol y Nats茂aid yn dysgu mai Ariaid oedd yr hil oruchaf a bod rhai hiliau yn untermensch/is-ddynol. Credai llawer o wyddonwyr y Nats茂aid ar y pryd mewn , sef y syniad fod pobl ag anableddau neu broblemau cymdeithasol yn a bod angen dileu eu genynnau o鈥檙 gwaedlin dynol. Dilynodd y Nats茂aid bolis茂au ewgeneg yn frwd.

Polisi erlid

  • Anffrwythloni - Er mwyn cadw鈥檙 hil Ariaidd yn bur, ataliwyd amryw o grwpiau rhag atgenhedlu. C芒i pobl feddyliol a chorfforol anabl, gan gynnwys y byddar, eu hanffrwythloni, ynghyd 芒 phobl ag afiechydon . Gelwid plant a anwyd i fenywod Almaenig a milwyr Ffrengig Affricanaidd yn y Rheindir ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 鈥楩astardiaid y Rheindir鈥 a chawson nhw eu hanffrwythloni hefyd.
  • Gwersylloedd crynhoi - Yn aml c芒i pobl gyfunrhywiol, puteiniaid, Tystion Jehofa, sipsiwn, alcoholigion, , cardotwyr, hwliganiaid a throseddwyr eu corlannu a鈥檜 hanfon i ffwrdd i wersylloedd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu farw 85 y cant o sipsiwn yr Almaen yn y gwersylloedd hynny.